Heddiw, mae BAFTA yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, yn cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu doniau creadigol ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.
Datgelir yr enwebiadau ar gyfer pob un o’r 22 o gategorïau cystadleuol sy’n rhychwantu crefft, perfformio a chynhyrchu, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobrau Cymru ar 15 Hydref. Gallwch weld y rhestr lawn o enwebiadau YMA.
Dyma’r uchafbwyntiau:
- Saith enwebiad ar gyfer Y Sŵn
- Pum enwebiad ar gyfer Stori’r laith
- Pedwar enwebiad ar gyfer Greenham
- Tri enwebiad ar gyfer Chris a’r Afal Mawr
- Tri enwebiad ar gyfer y Dramâu Teledu His Dark Materials, The Lazarus Project a The Pact.
- Mae’r categorïau perfformio’n cynnwys pum unigolyn a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, sef Graham Land, Katie Wix, Owain Arthur, Rakie Ayola a Taron Egerton.
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae Gwobr Arbennig Siân Phillips wedi cael ei dyfarnu i Rakie Ayola. Gweler y datganiad i’r wasg yma.
Dywedodd Cadeirydd BAFTA Cymru, Angharad Mair;
“Gyda gwaith cynhyrchu ffilm a theledu o Gymru yn cyrraedd pob cwr o’r byd, mae nodi, dathlu a hyrwyddo ein talent a chreadigrwydd yn bwysicach nag erioed.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld twf aruthrol yn y sectorau creadigol yma yng Nghymru ac mae wedi bod yn wych gweld cynnydd yn nifer y lleoliadau a chynyrchiadau Cymreig ar y sgrin yn rhyngwladol ac yn fyd-eang.
Nod Gwobrau BAFTA Cymru yw dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiannau sgrin, ac fel Cadeirydd BAFTA Cymru, rwy’n hynod o falch ac yn llawn cyffro i weld pa berlau creadigol fydd yn rhagori yn ystod Gwobrau Cymru eleni. Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cael eu henwebu.”
Bydd seremoni 2023 yn cael ei chynnal yn yr ICCW yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a gall cynulleidfaoedd gartref ddilyn y cyffro wrth iddo ddigwydd ar sianel YouTube BAFTA. Bydd y cyflwynydd teledu poblogaidd o Gymru, Alex Jones, wrth y llyw unwaith eto, a bydd llu o sêr yn ymuno â hi i helpu i gyflwyno’r gwobrau ar y noson.
Alex yw un o’r cyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cydgyflwyno The One Show, sef prif raglen gylchgrawn BBC One, am 13 blynedd. Dechreuodd Alex ei gyrfa fel ymchwilydd teledu yng Nghymru cyn symud i ochr arall y camera gyda’i swydd gyflwyno gyntaf ar BBC Choice. Yna, ymunodd Alex ag S4C fel cyflwynydd ar y rhaglen ganu Cân i Gymru ac aeth ymlaen i gyflwyno amrywiaeth o raglenni plant, chwaraeon a theithio.
Cyn y Gwobrau, dywedodd Alex ba mor falch ydoedd o gyflwyno unwaith eto eleni.
“Rwyf wrth fy modd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru eleni eto ac i ddathlu’r holl gynyrchiadau ffilm a theledu sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n hyrwyddo a dathlu’r holl dalent a chreadigrwydd gwych sy’n dod allan o’m mamwlad bob amser yn bleser. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael eu henwebu ac edrychaf ymlaen at gael eich cwmni ar y noson.”
Mae noddwyr a phartneriaid Gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer 2023 wedi cael eu cadarnhau, sef Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Deloitte, EE, Eric James Transport Services, Gorilla, Lancôme, S4C, S.Pellegrino, Villa Maria.
– DIWEDD –