Heddiw, mae BAFTA yng Nghymru yn rhannu manylion yr enwebeion, y cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig a fydd yn bresennol yng Ngwobrau BAFTA Cymru, dan arweiniad y cyflwynydd teledu o Gymru Alex Jones yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd ddydd Sul, 15 Hydref.
Disgwylir i seren y llwyfan a anwyd yng Nghymru y Fonesig Siân Phillips (a ddathlodd ei phen-blwydd yn 90 oed eleni), yr actor a’r canwr Luke Evans, a’r actor Syr Jonathan Pryce CBE, yr actores, yr ysgrifennydd, yr awdur a’r artist Katy Wix, derbynnydd Gwobr Arbennig Siân Phillips eleni Rakie Ayola, yr awdur sgrîn a’r cynhyrchydd teledu arobryn Russell T Davies a Sean Fletcher o Good Morning Britain ymuno â ni ar y noson i ddathlu rhagoriaeth ar draws diwydiannau’r sgrîn yng Nghymru.
Bydd Alexandria Riley, Annabel Scholey, cyflwynydd S4C Elin Fflur, Gabrielle Creevy, Huw Novelli, y digrifwr, yr actores a’r ysgrifennydd Jayde Adams, Jo Hartley, Lily Beau, Louise Brealey, Mark Lewis Jones, Neet Mohan, cyflwynydd BBC Radio 2 Owain Wyn Evans, Sophie Melville a Steffan Cennydd yn ymuno â nhw ar y noson, ynghyd â Chyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhuanedd Richards a fydd yn cyflwyno Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni.
Yn fyw ar y noson, bydd Ffion Emyr yn perfformio trefniant newydd sbon y cynhyrchydd Branwen Munn o ‘Anfonaf Angel’, sef cân a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn gyda geiriau gan dderbynnydd Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni, Hywel Gwynfryn.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Rydym yn falch iawn y bydd rhai o enwogion mwyaf y diwydiant yn ymuno â ni ar gyfer y gwobrau eleni ac i ddathlu’r holl dalent sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhyfeddol i weld cewri’r diwydiant yn rhannu’r llwyfan â thalent newydd sy’n dod i’r amlwg, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld chi i gyd a dathlu gyda chi ar y noson.”
Bydd seremoni 2023 yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a bydd cynulleidfaoedd gartref yn gallu dilyn y cyffro’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.
Y noddwyr a’r partneriaid sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023 yw Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Coco & Cwtsh, Deloitte, EE, Eric James Travel Services, Gorilla, ITV Cymru Wales, Lancôme, San Pellegrino, S4C a Villa Maria.