Heddiw, mae BAFTA wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu talent ar draws byd ffilm a theledu yng Nghymru
Cynhelir Gwobrau BAFTA Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) yng Nghasnewydd ddydd Sul 20 Hydref sy’n cynnwys 21 o gategorïau yn rhychwantu meysydd crefft, perfformio a chynhyrchu.
Gallwch weld y rhestr lawn o enwebiadau YMA.
Dyma’r ffilm/rhaglenni â’r nifer fwyaf o enwebiadau:
- Chwe enwebiad ar gyfer Men Up
- Pum enwebiad ar gyfer Doctor Who, Pren ar y Bryn a Steeltown Murders
- Pedwar enwebiad ar gyfer Wolf
Heddiw, mae BAFTA yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, yn cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ar draws byd ffilm a theledu yng Nghymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ddisglair yn yr ICCW yng Nghasnewydd ddydd Sul 20 Hydref.
Dyma’r uchafbwyntiau:
- Chwe enwebiad ar gyfer Men Up
- Pum enwebiad ar gyfer Doctor Who, Pren ar y Bryn a Steeltown Murders
- Pedwar enwebiad ar gyfer Wolf
- Tri enwebiad ar gyfer y rhaglen ddogfen Siân Phillips yn 90
- Tri enwebiad ar gyfer y ffilm nodwedd Chuck Chuck Baby
- Dau enwebiad ar gyfer Rhod Gilbert: A Pain In the Neck a Strike! The Women Who Fought Back
Mae’r categorïau perfformio’n cynnwys pedwar unigolyn a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, sef Aimee-Ffion Edwards ar gyfer Dreamland, Alexandra Roach ar gyfer Men Up, Ncuti Gatwa ar gyfer Doctor Who a Philip Glenister ar gyfer Steeltown Murders.
Mae eraill a enwebwyd am y tro cyntaf yn cynnwys Jess Howe, a enwebwyd yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer Strike! The Women Who Fought Back, Megan Gallagher, a enwebwyd yn y categori Awdur ar gyfer Wolf, Matthew Barry, a enwebwyd yn y categori Awdur ar gyfer Men Up a Stifyn Parri, a enwebwyd yn y categori Cyflwynydd ar gyfer Paid â Dweud Hoyw.
Bydd cyflwynwyr gwobrau sy’n cynrychioli’r gorau o dalent greadigol y sector yn ymddangos ar y carped coch ac yn cyhoeddi’r enillwyr ar y noson.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Llongyfarchiadau i enwebeion BAFTA Cymru eleni, sydd wedi dangos crefft a chreadigrwydd eithriadol ar y sgrin ac oddi arni trwy ystod drawiadol iawn o waith. Mae enwebeion BAFTA Cymru heddiw yn rhestr o ffilmiau, sioeau teledu a pherfformiadau y mae’n rhaid eu gwylio ac yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin talent greadigol yng Nghymru a diwydiannau sgrin sy’n tyfu’n gyflym fel bod cynnwys gwych yn gallu parhau i gael ei wneud yn y dyfodol. Mae BAFTA yn falch o hyrwyddo a chefnogi diwydiannau sgrin Cymru trwy Wobrau BAFTA Cymru a’n rhaglenni dysgu a’n digwyddiadau ar hyd y flwyddyn, felly edrychwn ymlaen at ddathlu’r holl enwebeion ac enillwyr, a chydnabod eu hymdrechion, yng Ngwobrau BAFTA Cymru fis nesaf.”
Ychwanegodd Rebecca Hardy, Pennaeth BAFTA Cymru: “Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y creadigrwydd a’r sgil eithriadol a ddangoswyd ar draws pob un o’r 21 categori yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni. Mae’r enwebeion yn dyst i’r gwaith caled a’r ymrwymiad i’w crefft a chryfder y celfyddydau sgrin yng Nghymru. Mae BAFTA Cymru yn falch o hyrwyddo ein cymuned greadigol dalentog yma yng Nghymru yn ogystal â chefnogi’r genhedlaeth nesaf, i sicrhau ein lle ar fap diwydiannau sgrin y byd-eang.”
Mae noddwyr a phartneriaid y digwyddiad wedi cael eu cadarnhau: BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Coco & Cwtsh, Creative Wales, Deloitte, EE, Executive Cars Wales, Gorilla, Hildon, Lancôme, S4C a Villa Maria.
Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn gweithredu ar sail nid-er-elw ac mae tocynnau ar gyfer y Seremoni ar gael i’w prynu, cysylltwch â events.bafta.org o 10yb ar 5 Medi 2024. Bydd y Seremoni yn cael ei ffrydio’n fyw i’r rhai sy’n methu bod yn bresennol ar https://www.youtube.com/bafta.