Yr enghreifftiau gorau ym myd ffilm a theledu o Gymru i’w dathlu yng Ngwobrau BAFTA Cymru ddydd Sul 9 Hydref

Dyma’r rhaglenni/ffilmiau a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau:

  • Dream Horse sy’n arwain y ffordd gyda phum enwebiad
  • Pedwar enwebiad ar gyfer In My Skin
  • Tri enwebiad yr un ar gyfer CODA, Grav, Mincemeat (On the Edge) a The Pact

Bydd y cyflwynydd teledu Alex Jones yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd

7 Medi 2022: Heddiw, mae BAFTA wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu talent ar draws byd ffilm a theledu yng Nghymru.

Eleni, bydd Gwobrau BAFTA Cymru wyneb yn wyneb eto yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers dwy flynedd, gyda 21 o gategorïau yn rhychwantu crefft, perfformio a chynhyrchu. Bydd Alex Jones yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant ddydd Sul 9 Hydref yng nghwmni llu o sêr i gyhoeddi’r enillwyr ar y noson. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube BAFTA hefyd, @BAFTA.

Mae’r rhestr lawn o enwebiadau ar gael yn https://www.bafta.org/awards/cymru/nominations-2022. Mae uchafbwyntiau o enwebiadau heddiw yn cynnwys:

  • Dream Horse (pum enwebiad) – Actor, Ffilm Nodwedd/Deledu, Colur a Gwallt, Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, Sain.
  • In My Skin (pedwar enwebiad) – Actores, Cyfarwyddwr: Ffuglen, Drama Deledu, Awdur.
  • CODA (tri enwebiad) – Actores, Cyfarwyddwr: Ffuglen, Awdur.
  • Grav – (tri enwebiad) – Ffilm Nodwedd/Deledu, Ffotograffiaeth A Goleuo: Ffuglen, Awdur
  • Mincemeat (On the Edge) (tri enwebiad) – Actores, Cumru Torri Trwodd, Drama Deledu.
  • The Pact (tri enwebiad) – Actor, Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, Awdur

Dywedodd Alex Jones: ‘Nid yn unig y mae’n fraint ac anrhydedd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru unwaith eto, ond mae’r ffaith ei bod yn ôl fel seremoni fyw eleni mor gyffrous. Does dim awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu’r holl raglenni teledu a ffilmiau rhyfeddol sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – llongyfarchiadau mawr i’r holl enwebeion.’

Nodiadau i Olygyddion

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Mark Boustead, IJPR 

E: [email protected]

Ff: 07825 932 931

Bydd BAFTA yn darparu detholiad o ddelweddau i’r wasg sydd ar gael i’w defnyddio am ddim ddydd Sul 9 Hydref o 19.00 GMT trwy https://bafta.thirdlight.com/link/BAFTAPressImages/ (mae telerau ac amodau defnydd wedi’u cynnwys o fewn y ddolen). Bydd ffotograffiaeth ychwanegol ar gael trwy Third Light

Mae’r cefnogwyr digwyddiad a phartneriaid canlynol wedi cael eu cadarnhau: AB Acoustics, Acqua Panna, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Deloitte, Edge 21 Studio, EE, ELP Broadcast Lighting, Eric James Transport Services, Gorilla, IJPR Cymru, ITV Cymru Wales, Lancôme, Mad Dog 2020 Casting, Mark Jermin, Penderyn Whisky, Radisson Blu, S4C, S.Pellegrino, ScreenSkills, Trosol, Villa Maria a chyllid a chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.