Mae Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, a gynhelir yr wythnos nesaf, yn cynnig cipolwg cyfareddol ar sut mae canghennau’r academi yn dathlu llwyddiant yng ngwledydd y DU. Mae’r enwebeion yn amrywio o raglenni rhwydwaith fel ffantasi y BBC/HBO His Dark Materials a ffilm gyffro ffuglen wyddonol Sky, The Lazarus Project, i Stori’r Iaith gan S4C, lle mae wynebau cyfarwydd o’r digrifwr Elis James i gyflwynydd The One Show, Alex Jones, yn archwilio beth mae’r Gymraeg yn ei olygu iddyn nhw.
Yn yr un modd â Gwobrau BAFTA Yr Alban, a gynhelir ddydd Sul 19 Tachwedd, y llinyn cyffredin yw bod enwebeion yn cynrychioli eu gwlad cymaint â’u cynyrchiadau. Ar gyfer y canghennau clos hyn – gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli ychydig dros 1,000 o aelodau – y seremonïau yw uchafbwynt llu o ddangosiadau, paneli a digwyddiadau rhwydweithio a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.
Dywed pennaeth dros dro BAFTA Cymru, Rebecca Hardy, fod y digwyddiad yn atgoffa pawb bod teledu Cymreig yn cael effaith enfawr gartref a ledled y byd. “Mae’r Gwobrau yr un mor bwysig i’r darlledwyr mawr a’r cwmnïau cynhyrchu ag ydynt i weithwyr llawrydd – cyfle i bawb ddathlu ar y cyd,” meddai.
Yn y cyfamser, mae Cyfarwyddwr BAFTA Yr Alban, Jude MacLaverty, wrth ei bodd yn gweld a dathlu llwybr gyrfa talent o weithgarwch llawr gwlad i lwyddiant mewn seremonïau gwobrwyo. Caiff y gwobrau eu nodweddu gan “ymdeimlad gwirioneddol o falchder cenedlaethol a chroeso’n ôl adref”, meddai, wrth i sêr fel Peter Capaldi, Brian Cox a Ncuti Gatwa gael eu cyfarch fel pobl leol sydd wedi llwyddo. “Mae fel priodas,” meddai. “Rydych chi’n dod yn ôl at eich gilydd i ddathlu. Mae’n llawn bri, ond yn bendant mae yna ymdeimlad o barti.”
Bu’r canghennau’n gwasanaethu aelodau ac yn hyrwyddo nodau ac amcanion elusennol BAFTA ers bron i bedwar degawd bellach – agorodd BAFTA Yr Alban yn Nglasgow ym 1986 a sefydlwyd BAFTA Cymru yng Nghaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach.
Er bod aelodau’n cael buddion arferol aelodaeth BAFTA, gan gynnwys pleidleisio yn y gwobrau cenedlaethol a dangosiadau rheolaidd o waith enwebedig, mae’r ddwy gangen wedi’u cysylltu â’n cymunedau creadigol.
“Mae’n hynod bwysig bod gan aelodau pleidleisio BAFTA lais a phleidlais o’r gwledydd a’r rhanbarthau – gallai’r hyn y gwnaeth un pleidleisydd fwynhau ei wylio yn Shetland fod yn hollol wahanol i bleidleisydd cyfatebol yn ne-ddwyrain Lloegr, er enghraifft”, meddai MacLaverty. “Ond mae hefyd yn ymwneud â chymuned; mae BAFTA Yr Alban yn lud cymdeithasol da iawn ar gyfer ein diwydiannau lleol, yn lle niwtral, braf lle gallwn ni drafod a dathlu.”
“Hyd yn oed wrth fynd i’n dangosiadau rheolaidd yn unig, mae aelodau’n creu cysylltiadau neu’n cael eu hysbrydoli ac yn cael gwybodaeth, a gallant gyfrannu at y genhedlaeth nesaf o dalent naill ai drwy siarad â nhw a rhwydweithio neu drwy fod yn rhan o banel neu ar ein rheithgorau.”
Mae Hardy yn cytuno ac yn gweld rôl BAFTA Cymru fel “pontio cefnogaeth o dalent sy’n dod i’r amlwg i’r bobl sydd wedi bod yn y diwydiant ers blynyddoedd.”
Mae’n ychwanegu: “Dim ond os ydym wir yn cynrychioli’r DU gyfan y gallwn fod yn BAFTA. Heb Gymru a’r Alban, byddem yn hepgor israniad penodol o Brydain yn hytrach na chroesawu’r cenhedloedd hyn ac mae’n galluogi BAFTA i gydnabod yr amrywiaeth eang o waith yma.”
Gall y ddwy wlad gael effaith wirioneddol ar lawr gwlad trwy ddyfarnu bwrsariaethau datblygu gyrfa fel rhan o raglen DU-gyfan BAFTA i helpu gweithwyr creadigol iau â chostau meithrin eu sgiliau a phrofiad. Dyrannodd Cymru werth £18,500 o’r bwrsariaethau hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dyrannodd yr Alban £20,000, gyda’r derbynyddion yn amrywio o weithredwyr camera a pheirianwyr sain i gynorthwywyr celfi a sgowtiaid lleoliadau, gyda phob un ohonynt yn cael hyd at £2,000 tuag at gyrsiau hyfforddiant, prynu cit neu adleoli ar gyfer gwaith.
Mae MacLaverty yn pwysleisio bod uchelgais BAFTA i gynrychioli holl amrywiaeth y DU wrth wraidd gweithgarwch y canghennau cenedlaethol, sydd â’r nod o gefnogi canolfannau cynhyrchu lleol ac adeiladu cynyrchiadau Albanaidd a Chymreig dilys o’r gwaelod i fyny.
“Rydyn ni i gyd yn cyfrannu at lunio polisïau ac eiriolaeth BAFTA, gan roi mwy o gyfleoedd i leisiau sydd ar y cyrion,” meddai. “Rydym hefyd yn ofalus iawn i greu diwydiant cynaliadwy lle nad oes rhaid i’r gweithlu deithio’n bell i gyrraedd y gwaith.”
Mae MacLaverty yn gyffrous am gynllun peilot Screen Scotland sy’n cael ei gynnal mewn pum awdurdod lleol i ymwreiddio ffilm a theledu yn y cwricwlwm ysgolion. “I mi, mae ystyried bod ein plant yn gallu astudio a chael credyd neu arholiad mewn ffilm a theledu, dysgu am waith tîm, dysgu am fframio golygfeydd, dysgu am ysgrifennu, dysgu ei fod yn ddewis gyrfa da iawn i bobl ifanc – mae hynny’n teimlo’n flaengar.”
I Hardy, mae arddangos a hyrwyddo gwaith Cymraeg yn rôl mae’n ei chymryd wirioneddol o ddifrif. Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn ddwyieithog ac mae’r gangen yn cynnal digwyddiadau yn y famiaith.
“Mae iaith yn rhan o’n taith a’r hyn rydyn ni’n ei wneud – gorau po fwyaf o gynyrchiadau Cymraeg y gallwn ni eu cynnwys,” meddai Hardy. “Rydyn ni bob amser yn gwneud yn siŵr fod gennym ni gymysgedd iach o ddigwyddiadau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg i ddathlu a chefnogi’r gwaith sy’n dod o’r fan hon.
“Bu’r flwyddyn hon yn un eithriadol i ffilmiau a rhaglenni Cymraeg ac mae’r gwobrau’n helpu i godi eu proffil, sy’n hollbwysig. Ni fyddai BAFTA yng Nghymru yr hyn ydyw pe na fyddai’n ddwyieithog ac yn rhoi gwaith Cymraeg wrth wraidd iddo.”
Mae am i BAFTA Cymru barhau i fanteisio ar “hanesion heb eu hadrodd” am y diwylliant a’r hanes y tu ôl i’r iaith fyw hon. “Mae diwydiant Cymru wedi gwneud gwaith rhyfeddol i’w gwthio i’r maes rhyngwladol mewn lleoedd fel Netflix a Disney+.”
Er bod ganddynt eu pryderon unigol, mae’r canghennau’n debyg o ran eu nodau cyffredinol ac yn rhannu profiad a gwybodaeth yn rheolaidd. Hefyd, fel mae MacLaverty yn nodi, mae’r ddwy ohonynt yn awyddus i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed yng nghalon BAFTA hefyd.
Mae’r penaethiaid cangen wedi cymryd llwybrau tra gwahanol i’w rôl bresennol, gan adlewyrchu taith aelodau amrywiol BAFTA, ond mae ddwy ohonynt wedi’u lleoli yn eu gwledydd priodol ar eu hyd eu gyrfa.
Mae Hardy wedi gweithio ym myd teledu ers 24 mlynedd fel cynhyrchydd/cyfarwyddwr ac mae’n rhedeg Edge21 Studio, sef y cwmni y tu ôl i’r ap lleoliadau ymdrochol ffilm a theledu, Reel Reality.
Yn y cyfamser, bu MacLaverty yn gyfarwyddwr BAFTA Yr Alban er 2011, ar ôl gweithio ar y gwobrau fel gweithiwr llawrydd ers iddynt ddod yn ddigwyddiad blynyddol yn 2004. Enillodd radd o Goleg Celf Caeredin a dywed iddi gael ei “haddysg ffilm” yn sinema The Cameo yn y ddinas, lle “aeth llawer o’r tywyswyr a’r cynorthwywyr blaen tŷ ymlaen i weithio ym myd ffilm a theledu.”
Mae’r ddwy ohonynt wedi gweld twf aruthrol yn y diwydiannau sgrin domestig yn eu gwledydd. Dangosodd ffigurau Screen Scotland o 2021 gynnydd o 39% mewn cyflogaeth yn y sector yn y wlad, gyda gwariant buddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a HETV-TV wedi cynyddu 110%. Sefydlodd Channel 4 ganolfan greadigol yn Glasgow, gan ymuno â BBC Scotland, STV/STV Studios, yn ogystal â sector annibynnol hynod gynhyrchiol.
Yn y cyfamser, mae Dundee wedi dod yn gyfystyr â’r diwydiant gemau, ynghyd â chartref Rockstar North yng Nghaeredin.
“Bu ymgyrch wirioneddol i ni recriwtio aelodau gemau,” meddai MacLaverty, “ac, o ganlyniad, rydym wedi gweld twf aruthrol yn ein maes aelodaeth hwnnw, sy’n galonogol iawn.”
Cynyddodd trosiant sgrin Cymru 36% i £575m yn 2021 ac mae’r llwyddiant hwnnw wedi parhau, meddai Hardy. Gyda’i gilydd, daeth LucasFilm, Netflix a chynhyrchydd Doctor Who sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sef Bad Wolf, â 22 o brosiectau i’r wlad, gan ddod â £155m i economi Cymru hyd yn hyn a rhoi llu o waith i weithwyr llawrydd.
Yn gysgod dros hyn, wrth gwrs, y mae’r streic actorion yn yr Unol Daleithiau, sy’n oedi cynyrchiadau ac yn gohirio gwaith; adeg ysgrifennu, nid yw’r sefyllfa wedi’i datrys o hyd.
Mae gweithredu diwydiannol wedi gohirio cynhyrchu wythfed gyfres epig ffurflen wyddonol Starz, Outlander, sef y gyfres olaf, a fu’n elfen barhaus yn Wardpark Studios yn Cumbernauld ers degawd ac sydd wedi defnyddio lleoliadau ffilmio ar draws yr Alban. Wrth ei disgrifio fel “jygarnot”, mae MacLaverty yn nodi bod y sioe, sy’n llwyddiant byd-eang, yn hynod werthfawr fel rhaglen hyfforddiant i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant a’i bod wedi rhoi hwb i ‘dwristiaeth sgrin’ yn yr Alban.
Mae’r ddwy gangen yn parhau â’u rhaglenni digwyddiadau i gadw aelodau mewn cysylltiad. Mae rhoi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, o gynhyrchwyr gweithredol i gomisiynwyr a phenaethiaid genre darlledwyr, o flaen aelodau yn hollbwysig. Efallai bod gweithio o bell wedi lleihau’r angen i gynhyrchwyr rhanbarthol deithio ar drenau dros nos i gyfarfod â darlledwyr yn Llundain, ond does dim byd cystal â chyfarfod wyneb-yn-wyneb. Mae’r un peth yn wir am sgyrsiau rhwng cymheiriaid: mae MacLaverty yn sôn am sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau, er mwyn helpu i osgoi “syndrom y ffugiwr” a sicrhau bod pawb yn siarad ar sail enw cyntaf.
O ran y dyfodol, mae’n canolbwyntio ar dyfu’r gangen trwy arddel buddion ymuno. “Weithiau, mae pobl yn meddwl ei fod braidd yn gaeedig ac, oherwydd nad ydyn nhw’n defnyddio [Pencadlys BAFTA yn Llundain] 195 Piccadilly efallai, nid oes ganddyn nhw aelodaeth lawn. Ond rydyn ni’n parhau i fod yn rym er gwell yn y diwydiant – rydyn ni’n lwcus iawn bod brand BAFTA yn agor drysau.”
Mae Hardy yn cytuno bod y drysau hynny ar agor i sgwrsio a chydweithio – ac mae’n annog aelodau BAFTA o’r tu allan i Gaerdydd a Chymru i alw heibio am ddigwyddiadau os ydynt yn yr ardal neu eisiau teithio yno.
“Dim ond os byddwn ni’n rhoi lle i bob llais yn yr ystafell y byddwn ni’n cael tirwedd a diwydiant cyfoethocach o lawer,” meddai. “Mae BAFTA wirioneddol yma i bawb ac mae’n rhaid i ni feddwl am y ffordd orau i wasanaethau ein haelodau. Yn aml, rydyn ni’n gweld nad yw pobl yn sylweddoli beth mae eu haelodaeth yn ei gynnwys.”
Ac os oes angen i chi gael eich atgoffa, mae MacLaverty yn amlinellu datganiad o genhadaeth ei hymgyrch recriwtio.
“Nid y gwobrau yn unig sydd gennym – mae gennym ni fwrsariaethau, cyfleoedd hyfforddi a digwyddiadau. Rwy’ am i bobl deimlo eu bod nhw’n sicr yn rhan o hyn a bod rhywbeth yma iddyn nhw, ym mha ffurf bynnag y gallai hynny fod, yn dibynnu ar ble maen nhw yn eu gyrfa.
“Mae ein tâl aelodaeth yn cefnogi gwaith y gangen yn uniongyrchol, felly cefnogwch eich swyddfa BAFTA leol a gallwn ni barhau i gynnig mwy o gyfleoedd!”
Geiriau Robin Parker