Caerdydd, 21 Hydref 2021: Mae’r actores Rakie Ayola sydd wedi ennill Gwobr BAFTA, yr actor Matthew Rhys sydd wedi ennill llawer o wobrau, a’r cyflwynwyr teledu Ant a Dec yn arwain y sêr a fydd yn cyflwyno gwobrau yn 30ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ddydd Sul.

Bydd y Gwobrau’n cael eu cyflwyno unwaith eto gan y cyflwynydd teledu Alex Jones, a ddywedodd:

“Mae’r Cymoedd yn dod yn fwy fel Hollywood y dyddiau hyn, gydag actorion rhyngwladol fel Lin-Manuel Miranda, Tom Hardy a’r Fonesig Judi Dench yn byw a gweithio yma ochr yn ochr â thalent o Gymru fel Michael Sheen, Luke Evans a Russell T Davies. Er gwaethaf rhwystrau Covid, mae criwiau yng Nghymru wedi ateb yr her a gwneud rhai enghreifftiau o’r teledu gorau yn y byd mewn blwyddyn anodd iawn. Pob lwc i’r holl enwebeion!”

Yn ogystal â Rakie Ayola (Anthony), Matthew Rhys (Perry Mason, The Americans), ac Ant a Dec (I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here!, Ant & Dec’s Saturday Night Takeaway), bydd y cyflwynwyr hefyd yn cynnwys Behnaz Akhgar (cyflwynydd tywydd a darlledwr newyddion BBC Wales Today), Ṣọpẹ Dìrísù (Gangs of London, Humans, His House), Heledd Gwynn (The Pact), Myha’la Herrold (Industry), Emilia Jones (Locke and Key, CODA, Nuclear), David Jonsson (Industry), Eiry Thomas (The Pact), Amir Wilson (His Dark Materials), a Siôn Daniel Young (The Left Behind, Deceit).

Dywedodd yr actores fawr ei chlod o Gymru, Rakie Ayola, a enillodd wobr BAFTA ar gyfer Actores Gefnogol Orau yn gynharach eleni ar gyfer ei phortread o Gee Walker yn y ddrama BBC One, Anthony: “Rwy’n credu bod enwebiadau eleni’n wych nid yn unig oherwydd bod y safon yn uchel iawn, fel bob amser, ond oherwydd bod y sioeau hyn yn cael eu gwylio’n rhyngwladol.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae teledu yng Nghymru yn rhyfeddol ar hyn o bryd. Mae pobl wedi gwirioni ar Gymru, mae’n wych. Ac mae’r gwaith yn rhagorol.”

Dywedodd Amir Wilson, sy’n ffilmio trydedd gyfres His Dark Materials yng Nghymru ar hyn o bryd: “Mae llawer yn digwydd yng Nghymru, ac mae llawer o raglenni teledu a ffilmiau gwych yn cael eu creu yma ar hyn o bryd. Sex Education, Gangs of London, His Dark Materials. Llwyth o bethau da.”

Bydd y cyflwynydd teledu Alex Jones yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni ddigidol ddydd Sul 24 Hydref am 19.00 GMT ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae’r rhestr lawn o enwebiadau ar gael yn www.bafta.org/media-centre. Mae’r enwebiadau’n gywir ar yr adeg argraffu. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i newid yr enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at 24 Hydref 2021.

Ffotograffiaeth

Mae detholiad o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r datganiad hwn ar gael gan Thirdlight yn https://bafta.thirdlight.com/link/BAFTAPressImages/@/folder/3

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Swyddfa’r Wasg BAFTA

E: [email protected]

Ff: (0)20 7292 5863