• Gwobr Siân Phillips yw un o anrhydeddau mwyaf BAFTA Cymru, a gyflwynir i unigolyn Cymreig sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i deledu a/neu ffilm.
  • Cynhelir Gwobrau BAFTA Cymru 2023 yn ICC Cymru yng Nghasnewydd am y tro cyntaf eleni ar ddydd Sul Hydref 15.
  • Cyhoeddir enwebiadau Gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer 2023 ar 6 Medi.

Mae BAFTA Cymru heddiw yn cyhoeddi mai’r actores Gymreig Rakie Ayola yw enillydd Gwobr fawreddog Siân Phillips eleni. Yn un o anrhydeddau mwyaf BAFTA Cymru, mae Gwobr Siân Phillips yn cael ei chyflwyno i berson Cymreig sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i deledu a/neu ffilm.

Mae credydau actio a chynhyrchu helaeth Rakie Ayola yn cwmpasu sbectrwm trawiadol o rolau ym myd ffilm, theatr a theledu dros dri degawd, sydd wedi ei gweld hi’n gweithio gyda rhai o awduron, cyfarwyddwyr a thalent creadigol gorau’r Deyrnas Unedig.

Yn un o’r actorion mwyaf uchel ei pharch yn y Deyrnas Unedig, mae Ayola hefyd wedi bod yn eiriolwr angerddol dros ehangu amrywiaeth a chynrychiolaeth talent ar, ac oddi ar y sgrin ar hyd ei bywyd, yn ogystal â hyrwyddo straeon a chymeriadau cymhleth sy’n procio’r meddwl.

Ymhlith rhai o uchafbwyntiau diweddar ei gyrfa, bu’n chwarae rhan DS Holland ac yn ddiweddarach y gweithiwr cymdeithasol, Christine Rees yng nghyfres deledu The Pact ar BBC One (2021 – presennol), yn ogystal a bod yn uwch-gynhyrchydd arni. Portreadodd Gee Walker yn ffilm y BBC, Anthony (2020), lle enillodd Ayola’r wobr am yr Actores Gefnogol Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021; Drama deledu ITV Grace (2021) fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Alison Vosper; Cyfres deledu gyffro ysbïwr Amazon Alex Rider (2021 – ail dymor); Drama gomedi heddlu Channel 4, No Offence (2015) sydd wedi ennill BAFTA, ym mhrif ran y matriarch Nora Attah; Addasiad BBC One o Noughts & Crosses gan Malorie Blackman (2021) fel Prif Weinidog Opal Folami; a ffilm Netflix Been So Long (2018) gyferbyn â Michaela Coel a George McKay a ysgrifenwyd gan Che Walker.

Dywedodd Rakie Ayola: “Mae wedi cymryd amser hir i mi brosesu’r newyddion yma. A dweud y gwir, dyw e dal ddim yn teimlo’n real. Diolch yn fawr iawn BAFTA Cymru am fy newis fel enillydd Gwobr Siân Phillips eleni. Mae gwaddol yn rhywbeth hanfodol bwysig i mi, felly mae’n anrhydedd enfawr i mi ymuno â’r rhestr o’r rhai sydd wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol, gyda’r gobaith y gallaf ddefnyddio’r platfform anhygoel hwn i annog a gweithio gydag eraill fydd, gobeithio yn ymuno â ni ar y rhestr yn y dyfodol.”

Tra’n tyfu i fyny yn Nhrelái, Caerdydd lle mynychodd Ysgol Gynradd Windsor Clive ac Ysgol Gyfun Glan Elái, penderfynodd Ayola yn wyth oed ei bod am fod yn actores ar ôl gwylio Barbra Streisand yn Hello Dolly ar BBC1, ac mae wedi parhau i edmygu Streisand ers hynny.

Yn ystod ei blynyddoedd yn yr ysgol gyfun, bu’n aelod brwd o Theatr Ieuenctid Orbit, Theatr Ieuenctid De Morgannwg, Côr Ieuenctid De Morgannwg a (diolch i grant gan Awdurdod Addysg De Morgannwg) Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Pan gynigiwyd lle diamod iddi yng Ngholeg Frenhinol Cerdd a Drama Cymru, rhoddodd Ayola’r gorau i’r ysgol (misoedd cyn sefyll ei harholiadau Safon Uwch mewn Saesneg, Ffrangeg a cherddoriaeth), a chyda’i 5 lefel O a grant llawn gan yr AALl , dechreuodd Ddiploma Actio 3 mlynedd.

Hefyd yn adnabyddus am ei pherfformiadau rhagorol ar y llwyfan, mae credydau theatr Ayola hefyd yn cwmpasu sawl degawd. Mae hi’n gymrawd anrhydeddus o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle yn gynharach eleni bu’n helpu i feirniadu ei Gwobr Shakespeare newydd ochr yn ochr â Syr Ian McKellen.

Dywedodd Rebecca Hardy, Pennaeth Dros Dro BAFTA Cymru: “Mae Rakie yn dalent anhygoel sy’n ysbrydoli, gyrru a chyfoethogi’r diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt. Yn ymroddedig i’w chrefft, mae’n cyflwyno perfformiadau empathetig sy’n cysylltu’n ddwfn gyda’r gynulleidfa, gan arddangos nid yn unig ei gallu actio, ond tosturi a dealltwriaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol y gallwn ni fel gwylwyr gymryd cymaint oddi wrthynt. Yn rym creadigol sydd a galw mawr amdani, mae hi hefyd mor falch o’i gwlad, ac yn chwifio baner Cymru ar bob cyfle. Mae BAFTA Cymru yn falch iawn o gyflwyno Gwobr Siân Phillips i Rakie ac yn edrych ymlaen at ddathlu ei gyrfa amrywiol a thrawiadol fis nesaf yng Ngwobrau BAFTA Cymru.”

Bydd Gwobr Siân Phillips yn cael ei chyflwyno i Rakie Ayola mewn cyflwyniad arbennig o’i gwaith yng Ngwobrau BAFTA Cymru ar 15 Hydref. Cynhelir y seremoni yn ICC Cymru yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a bydd ar gael i’w wylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

Bydd enwebiadau Gwobrau BAFTA Cymru 2023 yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon ar ddydd Mercher 6 Medi.

– DIWEDD-

Nodiadau golygyddol
Ar gyfer ymholiadau’r wasg ynghylch yr enwebiadau a’r seremoni cysylltwch â:

Nia Medi (Medi Public Relations)

E: [email protected]

Ffôn: 07706860925

Mae detholiad o ddelweddau ar gael trwy wefan Thirdlight BAFTA yma.