Cyhoeddwyd enillwyr 31ain Gwobrau BAFTA Cymru heno mewn seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, wedi’u llywyddu gan y cyflwynydd teledu, Alex Jones. Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu doniau ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Enillodd In My Skin y wobr ar gyfer Drama Teledu, enillodd Kayleigh Llewellyn y categori Awdur ac enillodd Molly Manners y wobr ar gyfer Cyfarwyddwr Ffuglen.

Enillodd Owen Teale y wobr Actor ar gyfer Dream Horse. Enillodd Dream Horse yn y categori Sain.

Yn dilyn ei henwebiad yng Ngwobrau Ffilm BAFTA EE 2022, enillodd Emilia Jones y wobr Actores am ei pherfformiad yn CODA. Enillodd Grav y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu.

Enillwyd y wobr Torri Trwodd gan Chloe Fairweather ar gyfer Dying to Divorce. Enillodd yr enwebeion cynnig cyntaf Will Baldy y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen ar gyfer The Pact; enillodd Dylan Williams y wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol ar gyfer Men Who Sing a chasglodd Chris Roberts y wobr Cyflwynydd ar gyfer Bwyd Byd Epic Chris.  

Enillodd Bwyd Byd Epic Chris y wobr Rhaglen Adloniant hefyd.

Enillodd Hei Hanes! yn y categori Rhaglen Blant. Enillwyd y wobr Ffilm Fer gan Affairs of the Art.

Cyflwynwyd y wobr ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol i Y Parchedig Emyr Ddrwg; dyfarnwyd y wobr Cyfres Ffeithiol i Ysgol Ni: Y Moelwyn; a chyflwynwyd y wobr Newyddion, Materion Cyfoes i Coronavirus: A Care Home’s Story.

Enillodd Tim Davies y wobr Ffotograffiaeth Ffeithiol ar gyfer The Long Walk Home. Enillodd Dan Young yn y categori Golygu Ffeithiol ar gyfer Slammed. Cyflwynwyd y wobr Golygu Ffuglen i Elen Pierce Lewis ar gyfer Landscapers. Enillwyd y categori Colur a Gwallt gan Claire Williams ar gyfer Pursuit of Love

Cyflwynwyd Gwobr Siân Phillips i Annabel Jones gan Shane Allen. Fel un o anrhydeddau mwyaf BAFTA, mae’r wobr fawreddog hon yn cael ei chyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol naill ai i ffilmiau nodwedd mawr neu raglenni teledu’r rhwydwaith. Mae mwy o wybodaeth am y wobr hon ac am Annabel Jones i’w gweld yma.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Kayleigh Llewellyn yn gyn-enillydd gwobr Torri Trwodd BAFTA.
Mae’r tair gwobr BAFTA Cymru ar gyfer In My Skin yn dilyn buddugoliaethau yn gynharach eleni ar gyfer; Cyfres Ddrama Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA Virgin Media a gwobr Kayleigh Llewellyn ar gyfer Awdur: Drama yng Ngwobrau Crefft Teledu BAFTA eleni ac yn flaenorol yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2020.

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Mark Boustead, IJPR 

E: [email protected]

Ff: 07825 932 931

Mae manylion am le i gael ffotograffau a chynnwys fideo a gwybodaeth am hawlfraint i’w gweld yn ein nodyn gweithredol yma.

Cefnogwr a phartneriaid y digwyddiad yw: AB Acoustics, Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Deloitte, Edge 21 Studio, EE, ELP Broadcast Lighting, Eric James Transport Services, Gorilla, IJPR Cymru, ITV Cymru Wales, Lancôme, Mad Dog 2020 Casting, Mark Jermin, Penderyn Whisky, Radisson Blu, S4C, S.Pellegrino, ScreenSkills, Trosol, Villa Maria a chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

 

Rhestr lawn o Enillwyr ac Enwebeion Gwobrau BAFTA Cymru 2022

ACTOR

ANEURIN BARNARD Time – BBC Studios / BBC One

EDDIE MARSAN The Pact – Little Door Productions / BBC One

OWEN TEALE Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

SIÔN DANIEL YOUNG Deceit – Story Films / Channel 4

 

ACTORES

AIMEE LOU WOOD Mincemeat (On the Edge) – BlackLight Television / Channel 4

EMILIA JONES CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films

GABRIELLE CREEVY In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

JOANNA SCANLAN After Love – The Bureau / BFI

 

CYMRU TORRI DRWODD

BEN REED for Portrait of Kaye – Plainsong / Agile Films

CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

LEMARL FRECKLETON Curadur – Orchard / S4C

SAMANTHA O’ROURKE Mincemeat (On the Edge) – BlackLight Television / Channel 4

 

RHAGLEN BLANT

BEX – Ceidiog / S4C

DEIAN A LOLI – Cwmni Da / S4C

EFACIWIS – Wildflame Productions / S4C

HEI HANES! – Cwmni Da / S4C

 

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

DYLAN WILLIAMS Y Côr / Men Who Sing – Men Who Sing Ltd / Backflip Media / Cwmni Da / Dartmouth Films

ERIC HAYNES A Killing In Tiger Bay – BBC Wales / BBC Two

TOM BARROW Murder in the Valleys – Five Mile Films / Sky Crime

 

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

GARETH BRYN Line of Duty – World Productions / BBC One

MARC EVANS Manhunt The Night Stalker – Buffalo Pictures / ITV

MOLLY MANNERS In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

SIÂN HEDER CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films

 

GOLYGU: FFEITHIOL

ALUN EDWARDS John Owen: Cadw Cyfrinach – Wildflame Productions / S4C

DAN YOUNG Slammed – BBC Wales / BBC One Wales

IAN DURHAM Snowdonia: A Year on the Farm – Frank Films / BBC One Wales

JOHN GILLANDERS Huw Edwards yn 60 – Rondo Media / S4C

 

GOLYGU: FFUGLEN

ELEN PIERCE LEWIS Landscapers – SISTER in association with South of the River Pictures / Sky Atlantic

TIM HODGES Life and Death in the Warehouse – BBC Studios / BBC Three

URIEN DEINIOL Enid a Lucy – Boom Cymru / S4C

 

RHAGLEN ADLONIANT

 6 GWLAD SHANE AC IEUAN – Orchard / S4C

 AM DRO! – Cardiff Productions / S4C

BWYD BYD EPIC CHRIS – Cwmni Da / S4C

 IAITH AR DAITH – Boom Cymru / S4C

 

CYFRES FFEITHIOL

GWESTY ADUNIAD – Darlun / S4C

THE GREAT BIG TINY DESIGN CHALLENGE – Yeti Television / More4

MURDER IN THE VALLEYS – Five Mile Films / Sky Crime

YSGOL NI: Y MOELWYN – Darlun / S4C

 

FFILM NODWEDD/DELEDU

DREAM HORSE – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

GRAV – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

THE TRICK – Vox Pictures / BBC / BBC One

 

COLUR A GWALLT

CLAIRE WILLIAMS The Pursuit of Love – Open Book Productions / Moonage Pictures / BBC One

JACQUETTA LEVON – Save The Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

ROSEANN SAMUEL Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

 

NEWYDDION A MATERION CYFOES

A KILLING IN TIGER BAY – BBC Wales / BBC Two

CORONAVIRUS: A CARE HOME’S STORY – ITV Cymru Wales

COVID, Y JAB A NI – Cloud Break Pictures / S4C

NO BODY RECOVERED – ITV Cymru Wales / ITV

 

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

MEI WILLIAMS Peter Moore: Dyn Mewn Du – Kailash Films / S4C

TIM DAVIES The Long Walk Home – Rediscover Media / Telesgop / BBC One

TUDOR EVANS Dark Land – The Hunt for Wales’ Worst Serial Killer – Monster Films / BBC One Wales

 

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

CHAS BAIN A Discovery of Witches – Bad Wolf / Sky

ERIK ALEXANDER WILSON Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

RYAN EDDLESTON Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

WILL BALDY The Pact – Little Door Productions / BBC One

 

CYFLWYNYDD

CHRIS ROBERTS yn Bwyd Byd Epic Chris – Cwmni Da / S4C

ELIN FFLUR yn Sgwrs Dan y Lloer – Tinopolis / S4C

JASON MOHAMMAD yn DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad – Hall of Mirrors / S4C

SEAN FLETCHER yn Wonders of the Border – ITV Cymru Wales

 

FFILM FER

AFFAIRS OF THE ART – Beryl Productions International / National Film Board of Canada / BBC Two Wales

FACE DOWN IN THE BACK OF A CAR – Scymru

JACKDAW – Broadside Films

LOUDER IS NOT ALWAYS CLEARER – On Par Productions

 

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

JOHN OWEN: CADW CYFRINACH – Wildflame Productions / S4C

MOTHERS, MISSILES AND THE AMERICAN PRESIDENT – ie ie Productions / BB One Wales

MYLEENE KLASS: MISCARRIAGE & ME – Hall of Mirrors / W

Y PARCHEDIG EMYR DDRWG – Docshed / S4C
 

SAIN

JOHN MARKHAM Cyngerdd Tangnefedd Llangollen – Rondo Media / S4C

Y TÎM SAIN Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Y TÎM SAIN Wonders of the Celtic Deep – One Tribe TV / BBC One Wales

 

DRAMA DELEDU

IN MY SKIN – Expectation Entertainment / BBC One Wales

LIFE AND DEATH IN THE WAREHOUSE – BBC Studios / BBC Three

MINCEMEAT (ON THE EDGE) – BlackLight Television / Channel 4

YR AMGUEDDFA – Boom Cymru / Tarian Cyf / S4C

 

AWDUR

KAYLEIGH LLEWELLYN In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

OWEN THOMAS Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

PETE MCTIGHE The Pact – Little Door Productions / BBC One

SIÂN HEDER CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films