5 Medi 2022: Heddiw, mae BAFTA wedi cyhoeddi bod Nerys Evans wedi’i phenodi’n Bennaeth BAFTA Cymru, cangen yr elusen gelfyddydau yng Nghymru.
Bydd Nerys yn dechrau ei rôl newydd y mis hwn gyda chylch gwaith i hybu presenoldeb BAFTA yng Nghymru. Bydd yn goruchwylio’r broses o gyflawni nodau ac amcanion elusennol y sefydliad, gan ddod â’r enghreifftiau gorau o ffilmiau, gemau a theledu o Gymru i sylw’r cyhoedd ac amlygu a chefnogi talent yng Nghymru.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Rwy’n falch iawn bod Nerys Evans wedi ymuno â ni fel Pennaeth newydd BAFTA Cymru. Bydd Nerys yn arwain y ffordd wrth amlygu ehangder a llwyddiant ein diwydiant cynhyrchu ffyniannus yng Nghymru, gan ysbrydoli a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent a dod â’r enghreifftiau gorau oll o ffilmiau, gemau a theledu o Gymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Rwy’n siŵr y bydd y bennod nesaf ar gyfer BAFTA Cymru yn un hynod gyffrous.”
Dywedodd Nerys Evans: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i wasanaethu fel Pennaeth BAFTA Cymru er mwyn cynrychioli brand BAFTA a’r diwydiannau sgrin sy’n tyfu yng Nghymru. Mae’r sectorau ffilm, gemau a theledu yn sbardunwyr allweddol ffyniant economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genedl, sy’n gallu cynnig cyfleoedd i dalent newydd a phresennol ar draws tirwedd ddiwylliannol a daearyddol amrywiol Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor, tîm BAFTA, a rhwydwaith ehangach BAFTA wrth gyflawni strategaeth newydd yng Nghymru ac ar ei chyfer, gan sbarduno cynwysoldeb a hygyrchedd cynaliadwy yn y diwydiant ac ar ei gyfer.”
Mae gyrfa 23 blynedd Nerys Evans yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ac iddynt yn rhychwantu cynhyrchu sgrin ar gyfer y teledu, addysg, polisi rhanbarthol a chenedlaethol, arloesedd a buddsoddi, gyda dealltwriaeth benodol o’r cyfleoedd a’r heriau unigryw a geir mewn clystyrau o’r diwydiant creadigol ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ei phrofiad o randdeiliaid a strategaeth yn cynnwys diwydiant a pholisi, gan gynnwys adrannau’r Llywodraeth ganolog (e.e. yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon), Llywodraethau datganoledig, y Cyngor Diwydiannau Creadigol, addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chwmnïau sgrin annibynnol, darlledwyr a chwmnïau technoleg cysylltiedig.
Yn ei swydd flaenorol fel Swyddog Gweithredol Strategaeth yn Innovate UK, gweithiodd Nerys yn agos gyda’r Cyfarwyddwr Her ar gyfer Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol a Chynulleidfa’r Dyfodol y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) wrth ddarparu’r buddsoddiad £120m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i arloesi’r diwydiannau creadigol, sydd wedi cynhyrchu cydfuddsoddiad o £210m mewn tair blynedd. Yn flaenorol, gweithiodd Nerys gydag uwch reolwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i osod y weledigaeth strategol ar gyfer sicrhau buddsoddiad yng Nghanolfan S4C Yr Egin, sef adeilad dwyieithog arloesol sy’n uno diwydiannau creadigol gorllewin Cymru wledig; mae bellach yn gartref i S4C a chyfres o gwmnïau teledu a digidol annibynnol. Yn ystod ei 10 mlynedd yn y diwydiannau sgrin, gweithiodd Nerys ym maes materion cyfoes a chynnwys ffeithiol ar gyfer S4C, ITV a’r BBC ar gynyrchiadau rhanbarthol a rhwydwaith.
Nodiadau i Olygyddion:
Mae detholiad o ddelweddau ar gael ar ein gwefan ddelweddau BAFTA Thirdlight yma.
I gael rhagor o wybodaeth:
Nick Williams, Rheolwr Cyfathrebu, BAFTA