Mae BAFTA Cymru yn cyhoeddi heddiw y bydd y cynhyrchydd o Gymru, Annabel Jones, yn derbyn Gwobr fawreddog Siân Phillips yn ei Gwobrau BAFTA Cymru blynyddol, a gynhelir ddydd Sul 9 Hydref 2022. Cyflwynir Gwobr Siân Phillips i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniadau arwyddocaol at ffilmiau nodwedd neu raglenni teledu rhwydwaith mawr.

Gyda repertoire amrywiol a helaeth sy’n rhychwantu bron tri degawd, mae credydau Annabel Jones yn cynnwys Dead Set (2008), fersiynau amrywiol o Wipe a Cunk Charlie Brooker (2009-), A Touch of Cloth (2012-2014) a Death To 2020 (2020 a 2021), ac mae’n adnabyddus am greu teledu mentrus a difyr.

Dywedodd Annabel Jones: ‘Mae’n anrhydedd mawr derbyn y Wobr Arbennig hon gan BAFTA Cymru. Rwy’n falch iawn o fod yn Gymraes ac mae’r syniad o gael y wobr hon gan y diwydiant Teledu a Ffilm yn fy ngwlad enedigol yn fwy rhyfeddol nag unrhyw bennod o Black Mirror.’

Dywedodd Emma Baehr, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwobrau a Chynnwys, yn BAFTA: “Rydym yn falch iawn o roi Gwobr Siân Phillips i Annabel. Mae Annabel wedi gwneud cyfraniad mor enfawr a dylanwadol at fyd teledu, ac mae’n dderbynnydd haeddiannol iawn o’r wobr arbennig hon – un o’n hanrhydeddau mwyaf.”

A hithau’n dod o Aberdaugleddau yn wreiddiol, astudiodd Jones Economeg Datblygu yn Ysgol Economeg Llundain. Roedd ei swydd gyntaf yn y cwmni ôl-gynhyrchu, The Mill, ac oddi yno fe symudodd i’r cwmni cynhyrchu enfawr EndemolShine, lle’r oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i bobl ddawnus a oedd yn awyddus i sefydlu eu cwmni eu hunain. Cyfarfu â’r awdur Charlie Brooker trwy’r rôl hon, a ganwyd partneriaeth greadigol nodedig.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, gwnaethant weithio gyda’i gilydd yn Zeppotron (2000), a ffurfio House of Tomorrow (2014) ac, yn fwyaf diweddar, Broke & Bones (2020).

Dywedodd Annabel: ‘Oherwydd i ni ddechrau fel ffrindiau, mae Charlie a fi yn rhannu synnwyr digrifwch a diffyg parch tuag at ein gilydd. Rwy’n credu mai dyna gyfrinach ein cydweithrediad creadigol – rydyn ni bron bob amser yn cyd-fynd yn greadigol, ond pan nad yw hynny’n wir, rydyn ni’n gallu bod yn onest â’n gilydd. Rydyn ni’n parchu ein gilydd, ond nid ar draul jôc dda.’

Er bod eu holl waith yn unigryw, cynhyrchiad mwyaf nodedig y pâr fu’r gyfres antholeg Black Mirror (2011-): pum tymor a dwy raglen arbennig, gan gynnwys y ffilm arloesol Bandersnatch (2018), a enillodd Jones ei phumed Gwobr Emmy a’i nawfed enwebiad BAFTA. Mae Jones hefyd wedi ennill Emmy® Ryngwladol, Gwobr Urdd Cynhyrchwyr America, Gwobr Rose D’or, Gwobr Peabody, Gwobr Ddarlledu, Gwobr Urdd y Wasg Ddarlledu am Arloesedd mewn Darlledu, ac yn 2019 rhoddwyd Gwobr y Beirniaid iddi gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Mae Jones yn credu bod tri pheth yn angenrheidiol i fod yn gynhyrchydd: gwydnwch, sensitifrwydd a diplomyddiaeth. ‘Mae’n rhaid i chi fynegi optimistiaeth,’ meddai. ‘Mae cynhyrchydd da yn cefnogi’r tîm cyfan, yn creu man cyfeillgar lle mae barn pawb yn cael ei gwerthfawrogi. Ond mae’n rhaid iddo hefyd warchod uchelgais gwreiddiol y darn. Mae’n gallu bod yn straen ac yn unig weithiau, ond pan fydd yn gweithio, does dim byd tebyg.’

Bydd Gwobrau BAFTA Cymru eleni yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd, ddydd Sul 9 Hydref 2022 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yng nghwmni’r cyflwynydd Alex Jones. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

Mae rhestr lawn o’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2022, a gyhoeddwyd gyntaf yn gynharach y mis hwn, ar gael yma

– DIWEDD –