Mae’r cerddor clasurol a chyflwynydd teledu Myleene Klass, yr actor Callum Scott Howells sydd wedi ennill gwobr BAFTA, seren newydd Doctor Who Ncuti Gatwa a dawnswraig broffesiynol Strictly Amy Dowden yn arwain y sêr a fydd yn cyflwyno gwobrau yn y 31ain Gwobrau BAFTA Cymru ddydd Sul yma.
Mae’r cyflwynydd teledu o Gymru, Alex Jones, yn dychwelyd fel llywydd y gwobrau, a fydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar 9 Hydref. Dywedodd Alex, “Mae nid yn unig yn fraint ac yn anrhydedd llywyddu Gwobrau BAFTA Cymru eto eleni, ond mae hefyd mor gyffrous iddi fod yn seremoni fyw unwaith eto.”
Ychwanegodd, “Nid oes awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu’r holl deledu a ffilm ryfeddol sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – llongyfarchiadau mawr i’r holl enwebeion.”
Mae Myleene Klass hefyd yn enwebai Gwobrau BAFTA Cymru 2022 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Myleene: Miscarriage and Me. Mae Callum Scott Howells (It’s A Sin), Ncuti Gatwa (Sex Education) ac enillydd Gwobr BAFTA Cymru, Amy Dowden (Strictly Amy: Crohn’s & Me), yn cyflwyno ochr yn ochr â’r actores Gymreig Morfydd Clark (Ring of Power, His Dark Materials), y perfformiwr drag Cymreig Tayce Szura-Radix (Ru Paul’s Drag Race UK), yr actores Gymreig Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon), yr actor Cymreig Tom Cullen (Weekend, Downton Abbey), yr actores a anwyd yng Nghaerdydd Abbie Hern (The Pact, Peaky Blinders), enillydd gwobr Teledu i Blant BAFTA 2019 Emily Burnett (Hollyoaks, Doctor Who: The Lonely Assassins), yr actores Gymreig Mali Ann Rees (Hidden, Tourist Trap), y cynhyrchydd a’r ysgrifennydd Shane Allen (Am I Being Unreasonable, Brass Eye), yr actores Miriam Isaac (Age of Outrage), yr ysgrifennydd Kiri Pritchard-McLean (Rob Gilbert’s Growing Pains), yr actores Shalisha James-Davis (Casualty, Mary Queen of Scots) a’r actor Ukweli Roach (Annika).
Dywedodd Amy Dowden, a enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2021 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Strictly Amy: Crohn’s & Me, “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy ngofyn i gyflwyno gwobr yn BAFTA Cymru 2022. Roedd fy rhaglen ddogfen, Strictly Amy: Crohn’s & Me, yn ffilm bersonol a phwysig iawn i mi ac roedd yn gyffrous iawn pan gafodd ei chydnabod gan BAFTA Cymru y llynedd. Rydym wedi’n bendithio â thalent greadigol dros ben yng Nghymru ac alla’ i ddim aros i helpu i’w dathlu ar y noson arbennig hon.”
Bydd y canwr-gyfansoddwr Cymreig newydd, MACY, a gyhoeddodd ei EP cyntaf EP ‘Word4Luv’ ddiwedd 2021, yn perfformio’n fyw ar y noson.
Bydd Gwobrau BAFTA Cymru eleni wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Am restr lawn o’r enwebeion, ewch yma.
Ffotograffiaeth
Mae detholiad o luniau yn ymwneud â’r datganiad hwn i’w gweld yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Mark Boustead, IJPR
Ff: 07825 932 931