Gyda thristwch mawr y clywsom fod yr actores Margaret John wedi marw ddoe. Roedd hi’n 84 oed.
Derbyniodd Margaret Wobr Cyflawniad Oes gan BAFTA yng Nghymru yn 2009, ac roedd disgwyl iddi gael cymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn ddiweddarach eleni. Roedd hi’n actores ryfeddol, ac fe fydd colled ar ei hôl.