You are here

BAFTA Cymru a Pinewood yn lansio partneriaeth i gefnogi diwydiant ffilm a theledu Cymru

22 October 2014

Mae BAFTA Cymru, a Grŵp Stiwdios Pinewood wedi dod at ei gilydd i ffurfio partneriaeth strategol i gefnogi diwydiant ffilm a theledu Cymru.

Mae’r ddau sefydliad yn cydweithio ar galendr digwyddiadau i ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a datblygu i’r rhai hynny sy’n gweithio yn y sectorau darlledu a chynhyrchu yng Nghymru. Mae’r fenter blwyddyn o hyd yn dilyn ehangiad diweddar Grŵp Stiwdios Pinewood i Gymru yn sgil lansio Stiwdio Pinewood Cymru.

Bydd y digwyddiad cyntaf, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan BAFTA Cymru a Pinewood, ym Mharti Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2014. ar ddydd Iau 9 Hydref yng Nghaerdydd. yn Jolyon’s at No.10. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i enwebeion ar gyfer 23ain seremoni Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ddathlu eu llwyddiant ochr yn ochr ag wynebau cyfarwydd o fyd y teledu a ffilmiau, yn ogystal â chynrychiolwyr allweddol o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau Cymru.

Yn y Parti Enwebeion bydd Cadeirydd BAFTA Cymru, Ian Jones, yn siarad am y tro cyntaf yn yn y rôl. Cafodd Ian, sy’n Brif Weithredwr S4C ac sydd wedi cyflawni llawer yn y diwydiant teledu gan gynnwys helpu i lansio S4C ym 1982, ei ethol yn Gadeirydd ym mis Ionawr eleni.

Dywedodd Ian Jones: “Ar draws y sector cynhyrchu teledu yng Nghymru a’r diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, mae bwrlwm creadigol ac awydd i weithio ar y cyd er mwyn cyflawni mwy o lwyddiant.

“Bydd y Parti Enwebeion nid yn unig yn gyfle i longyfarch pawb a gafodd eu cydnabod gydag enwebiadau BAFTA Cymru eleni, ond hefyd dwyn ynghyd rhai o’r bobl fwyaf dawnus yng Nghymru i drafod ein gwaith a chanolbwyntio ar y dyfodol.

“Mae’n bleser gweithio gyda Grŵp Stiwdios Pinewood ar y gyfres hon o ddigwyddiadau a'n gobaith yw y byddant yn arwain at fudd ychwanegol i’n diwydiannau creadigol a’r cynulleidfaoedd hynny ry'n ni yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd cynrychiolydd o Grŵp Stiwdios Pinewood: “Mae Pinewood wedi bod â pherthynas agos â BAFTA ers sawl blwyddyn. Rydym ni’n gyffrous bod y berthynas honno’n cael ei hymestyn i gynnwys BAFTA Cymru. Dymunwn yn dda i’r holl enwebeion am yr hyn ddylai fod yn seremoni wobrwyo gyffrous fydd yn arddangos doniau ac arbenigedd y rhai sy’n gweithio yn y sector ffilm a theledu bywiog yng Nghymru.”

Dim ond un yn unig mewn cyfres o bartneriaethau newydd sydd wedi cael eu ffurfio cyn Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni yw'r cydweithrediad hwn rhwng BAFTA Cymru â Pinewood. Mae llwyddiant cynyddol y seremoni a’i Pharti Enwebeion wedi denu nifer o noddwyr newydd eraill gan gynnwys Siampên Taittinger, Jolyons at No. 10 a Wow Event Hire. Y cwmni adnoddau darlledu allanol NEP CYMRU yw Noddwr Swyddogol y Digwyddiad unwaith eto at gyfer gwobrau eleni a'r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau Gorilla. yw Noddwr Allweddol y DigwyddiadBydd yr enwebeion sy’n dod i’r digwyddiad hefyd yn derbyn bag arbennig o anrhegion gan frandiau Cymreig yn cynnwys Wisgi Penderyn, Corgi Hosiery a Gleision Caerdydd, yn ogystal â nifer o frandiau mawr Prydeinig a rhyngwladol fel John Lewis, Charles Worthington a L’Occitane en Provence.

Yn ystod Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 28 o gategorïau rhaglenni, crefftau a pherfformiadau i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilmiau a theledu yng Nghymru. Arweinir y seremoni gan y cyflwynydd radio a theledu, Jason Mohammad, a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwyniadau gwobrau gan enwogion.