You are here

Cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer 25ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru

30 August 2016
Event: British Academy Cymru Awards Date: 27 September 2015 Venue: St. David's Hall, Cardiff Host: Huw Stephens - Area: CEREMONYBAFTA/Huw John

Y Gwyll/Hinterland yn arwain y ffordd gyda phedwar enwebiad

Tri enwebiad yr un i’r ddrama deledu 35 Diwrnod a’r ffilm nodwedd Yr Ymadawiad

Tri enwebiad yr un i’r rhaglenni ffeithiol; Tim Rhys Evans – All in the Mind, Swansea Sparkle: A Transgendered Story a Iolo’s Brecon Beacons

Sherlock sydd â’r nifer uchaf o enwebiadau yn y categori crefft

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi heddiw yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.

Bydd y 25ain seremoni, a fydd yn dathlu pobl ddawnus o Gymru ym meysydd cynhyrchu ffilm a theledu, crefft a rolau perfformio, yn cael ei chynnal ar 2 Hydref 2016 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau arbennig gan wahoddedigion a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Mae Y Gwyll/Hinterland wedi cael ei enwebu unwaith eto am y gwobrau Drama Deledu, Cyfarwyddwr: Ffuglen (Gareth Bryn), Actores (Mali Harries) ac Actor (Richard Harrington, a enillodd y wobr y llynedd). Mae’r ddrama wleidyddol newydd Byw Celwydd a’r gyfres 35 Diwrnod sy’n dychwelyd yn cwblhau’r categori Drama Deledu.

Yn sgil y meini prawf cymhwysedd newydd ac ehangach ar gyfer gwobrau eleni, sy’n caniatáu cydnabod pobl ddawnus o Gymru sy’n gweithio ar gynyrchiadau rhwydwaith y Deyrnas Unedig, enwebwyd Aneurin Barnard am y wobr Actor ar gyfer ei rôl fel Boris Drubetskoy yn War and Peace, enwebwyd Phil John am y wobr Cyfarwyddwr; Ffuglen ar gyfer Downton Abbey ac enwebwyd Catrin Meredydd am y wobr Dylunio Cynhyrchiad ar gyfer Jekyll and Hyde. Mae Sherlock wedi cael tri enwebiad: Dylunio Cynhyrchiad (ar gyfer yr enillydd blaenorol Arwel Wyn Jones), Effeithiau Arbennig, Gweledol a Sain; a Theitlau a Hunaniaeth Graffeg.

Mae’r ffilm nodwedd Gymraeg Yr Ymadawiad wedi cael tri enwebiad: Mark Lewis Jones ar gyfer Actor, Tim Dickel ar gyfer Dylunio Cynhyrchiad ac Ed Talfan ar gyfer Awdur. Enwebwyd Craig Roberts ar gyfer ei ffilm nodwedd gyntaf, Just Jim, yn y categori Awdur, ochr yn ochr â Siwan Jones a Wil Roberts ar gyfer 35 Diwrnod.

Yn y categorïau ffeithiol, mae Tim Rhys Evans – All in the Mind wedi cael tri enwebiad, ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol, Golygu (Madoc Roberts), a Ffotograffiaeth Ffeithiol (Mei Williams). Enwebwyd The Brecon Beacons with Iolo Williams am y gwobrau Cyfres Ffeithiol, Cyfarwyddwr: Ffeithiol (John Gwyn) a Chyflwynydd (Iolo Williams).

Enwebwyd Swansea Sparkle: A Transgender Story ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol, Golygu (Geraint Huw Reynolds) a Chyfarwyddwr: Ffeithiol (Molly-Anna Woods).

Bydd derbynyddion Gwobr Siân Phillips a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad i Ffilm a Theledu yn cael eu cyhoeddi mewn Parti i’r Enwebeion ar 22 Medi, a chyflwynir y gwobrau hyn yn y seremoni ar 2 Hydref. Bydd enillydd y Wobr Cyflawniad Arbennig am Ffilm/Ffilm Deledu yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni.

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad ac mae’r noddwyr a’r partneriaid newydd a blaenorol canlynol wedi’u cadarnhau: Mad Dog Casting, Buzz Magazine, Cuebox, Deloitte, Ethos, Hotel Chocolat, Gwesty a Sba Dewi Sant, Champagne Taittinger, Working Word, ELP, Ken Picton, Princes Gate, Villa Maria, AB Acoustics, Capital Law, Denmaur, Genero, Holiday Inn Express, Trosol, Maes Awyr Cymru Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, S4C, Prifysgol Aberystwyth, BBC Cymru Wales, Prifysgol De Cymru, HMV, Pinewood Studios Group, Coleg Caerdydd a’r Fro, Audi, Sugar Creative a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Pris y tocynnau yw £90 yr un ac maen nhw ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 20 878500 / www.stdavidshallcardiff.co.uk 

Mae yna rhagor o wybodaeth yma am yr amseriadau ayyb ar gyfer y seremoni


Rhestr Lawn Enwebeion

 

SIÂN PHILLIPS

Fe’i cyhoeddir ar 22 Medi

CYFRANIAD ARBENNIG

Fe’i cyhoeddir ar 22 Medi

GWOBR CYFLAWNIAD ARBENNIG AM FFILM/FFILM DELEDU (noddwyd gan Coleg Caerdydd a’r Fro)

Fe’i cyhoeddir ar 2 Hydref

ACTOR (noddwyd gan AUDI)

ANEURIN BARNARD fel Boris Drubetskoy YN War and Peace

RICHARD HARRINGTON fel DCI Tom Mathias YN Hinterland/Y Gwyll

MARK LEWIS JONES fel Stanley YN Yr Ymadawiad

ACTORES (noddwyd gan HMV)

CATHERINE AYERS fel Angharad Wynne YN Byw Celwydd

MALI HARRIES fel DI Mared Rhys YN Hinterland/Y Gwyll

AMANDA MEALING fel Connie Beauchamp YN Casualty

RHAGLEN BLANT (YN CYNNWYS ANIMEIDDIO)

DAD - Ffilmworks

#FI (Cyfres 3 / Pennod: Christian & Joe )- Elin Jones

Y GEMAU GWYLLT – Aled Mills

MATERION CYFOES

LIFE AFTER APRIL – Y Tîm Cynhyrchu

WALES THIS WEEK (Saying Goodbye to Mum) – y Tîm Cynhyrchu

Y BYD AR BEDWAR – Y Tîm Cynhyrchu

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (noddwyd gan Capital Law)

MOLLY-ANNA WOODS ar gyfer Swansea Sparkle: A Transgender Story

JOHN GWYN ar gyfer Iolo's Brecon Beacons

VAUGHAN SIVELL - Mr Calzaghe

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (noddwyd gan Champagne Taittinger)

GARETH BRYN ar gyfer Hinterland / Y Gwyll

LEE HAVEN JONES ar gyfer 35 Diwrnod

PHILIP JOHN ar gyfer Downton Abbey

GOLYGU (noddwyd gan Gorilla)

WILL OSWALD ar gyfer Doctor Who

GERAINT HUW REYNOLDS ar gyfer Swansea Sparkle: A Transgender Story

MADOC ROBERTS ar gyfer Tim Rhys-Evans: All in the Mind

RHAGLEN ADLONIANT (noddwyd gan Sugar Creative)

BRYN TERFEL BYWYD TRWY GAN – Y Tîm Cynhyrchu

DIM BYD - Cwmni Da

LES MISERABLES Y DAITH I’R LLWYFAN - Hefin Owen

CYFRES FFEITHIOL (noddwyd gan Maes Awyr Cymru Caerdydd)

COAST – Y Tîm Cynhyrchu

IOLO’S BRECON BEACONS - John Gwyn

MUSIC FOR MISFITS: THE STORY OF INDIE - Siobhan Logue

DARLLEDIAD BYW AWYR AGORED

CÔR CYMRU –Y ROWND DERFYNOL – Y Tîm Cynhyrchu

MANIC STREET PREACHES  LIVE AT CARDIFF CASTLE – Y Tîm Cynhyrchu

Y SIOE – Y Tîm Cynhyrchu

DARLLEDIADAU’R NEWYDDION (noddwyd gan Working Word)

ARGYFWNG Y MUDWYR – Y Tîm Cynhyrchu

ELECTION WALES 2015 – Y Tîm Cynhyrchu

WALES AT SIX (Organ Donation) – Y Tîm Cynhyrchu

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL (noddwyd gan Gwesty a Spa Dewi Sant)

ALED JENKINS ar gyfer Patagonia with Huw Edwards

LUKE PAVEY ar gyfer The River Taff with Will Millard / The Taff the River That Made Wales

MEI WILLIAMS ar gyfer Tim Rhys-Evans: All in the Mind

CYFLWYNYDD (noddwyd gan Deloitte)

WILL MILLARD ar gyfer Hunters of the South Seas

GRIFF RHYS JONES ar gyfer Griff’s Great Britain

IOLO WILLIAMS ar gyfer Iolo's Brecon Beacons

DYLUNIO CYNHYRCHIAD (noddwyd gan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)

TIM DICKEL ar gyfer Yr Ymadawiad

CATRIN MEREDYDD ar gyfer Jekyll and Hyde

ARWEL WYN JONES ar gyfer Sherlock

FFILM FER (noddwyd gan Brifysgol De Cymru)

MY BRIEF ETERNITY: AR AWYR LE - Clare Sturges

ONLY CHILD - Andrew Toovey

SPOILERS - Grant Vidgen

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth)

PATAGONIA ERIC JONES AC lOAN DOYLE – Y Tîm Cynhyrchu

SWANSEA SPARKLE: A TRANSGENDER STORY - Molly-Anna Woods

TIM RHYS-EVANS: All IN THE MIND – Y Tîm Cynhyrchu

SAIN (noddwyd gan AB Acoustics)

Y Tîm Cynhyrchu - LADY CHATTERLEY’S LOVER

Y Tîm Cynhyrchu - MR CALZAGHE

Y Tîm Cynhyrchu - SHERLOCK

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL, TEITLAU A HUNANIAETH GRAFFEG (noddwyd gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant)

Y Tîm Cynhyrchu - DOCTOR WHO, THE MAGICIAN’S APPRENTICE

Y Tîm Cynhyrchu – SFA Y BLYNYDDOEDD BLEWOG

Y Tîm Cynhyrchu - SHERLOCK

DRAMA DELEDU (noddwyd gan Pinewood)

35 DIWRNOD – Y Tîm Cynhyrchu

BYW CELWYDD – Branwen Cennard

HINTERLAND/Y GWYLL – Y Tîm Cynhyrchu

AWDUR (noddwyd gan Ethos)

SIWAN JONES a WILL ROBERTS ar gyfer 35 Diwrnod

CRAIG ROBERTS ar gyfer Just Jim

ED TALFAN ar gyfer Yr Ymadawiad