You are here

Ymaelodi gyda BAFTA Cymru - pris a ffurflen

18 October 2010

Mae BAFTA yng Nghymru yn parhau i gefnogi, datblygu a hyrwyddo diwydiannau delwedd symudol Cymru.

Er mwyn annog datblygiad BAFTA yng Nghymru ymhellach ac ehangu ein gweithgarwch ar draws y wlad, rydym yn dymuno creu sylfaen aelodaeth eang ledled Cymru a fydd yn dwyn ynghyd arbenigedd a gwybodaeth unigolion yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol.

Bydd hyn yn creu argraff sylweddol ar ein haelodaeth bleidleisio ac yn sicrhau bod y safonau uchaf o gyflawniadau yn cael eu cydnabod yn y seremoni Wobrwyo flynyddol.
Gyda chefnogaeth ein haelodau ein ffocws fydd hyrwyddo ac annog rhagoriaeth yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Mae pump aelodaeth wahanol i bobl yng Nghymru (wele isod)

Lawrlwythwch ffurflen aelodaeth


Aelodaeth Cangen (Cymru’n unig)

Mae’r categori hwn ar gael i’r rhai:

  • Sydd â 3 blynedd o leiaf o brofiad proffesiynol yn y diwydiannau ffilm, teledu neu gyfryngau rhyngweithiol neu mewn unrhyw faes sydd yn uniongyrchol berthynol iddynt (e.e. ymchwil, action neu ddysgu).
  • Nad ydynt yn gymwys ar gyfer aelodaeth gyflawn BAFTA neu sydd â dim diddordeb mewn manteision ychwanegol aelodaeth gyflawn

Mae hawl gan yr aelodau hyn i:

  • Bleidleisio ar gyfer Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru. Mae gan pob aelod pleidleisio yr hawl i fynychu a phleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac i ethol Pwyllgor Rheoli BAFTA yng Nghymru.
  • Mynychu rhag ddangosiadau a digwyddiadau eraill arbennig yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, naill ai wedi’u trefnu gan BAFTA yng Nghymru neu ar y cyd gyda digwyddiadau/cyrff eraill. Cynigir mynediad am ddim i aelodau i holl ddigwyddiadau, dangosiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr BAFTA yng Nghymru.

Cyfradd GWLAD gostyngol: aelodaeth CANGEN

  • yn berthynol i bobl sydd yn byw ac yn gweithio dros 50 milltir o Gaerdydd. Meini prawf fel a gar gyfer aelodaeth CANGEN uchod.

Aelodaeth Cyswllt

Aelodaeth pleidleisio BAFTA Cymru gyda aelodaeth Cyswllt (ddi-bleidlais) BAFTA.

  • Mae’r categori yma ar gael i unigolion sydd:

Gyda lleiafswm o dair mlynedd o brofiad proffesiynol mewn ffilm, teledu neu gemau video neu mewn unrhyw faes sydd yn ymwneud yn uniongyrchol gyda hwy (h.y. ymchwilio, actio neu dysgu).

Mae hawl gan yr aelodau hyn i: 

  • Yr holl fanteision o Aelodaeth Cangen uchod. 
  • Defyndd o far aelodau BAFTA a’r bwyty yn 195 Piccadilly, Llundain. 

Mae aelodaeth Cyswllt ar gael am bris gostyngol i aelodau sydd yn byw mwy na 50 millitr tu allan i Gaerdydd. 


Aelodaeth Dechreuwr Gyrfa (Cymru’n unig)

Yn agored i unrhyw un yng Nghymru sydd â llai na 3 blynedd o brofiad proffesiynol yn y diwydiant ffilm, teledu a chyfryngau rhyngweithiol neu mewn unrhyw faes yn uniongyrchol gysylltiedig gyda nhw (e.e. ymchwil, actio neu ddysgu). Rhaid i chi fod eisoes yn gweithio neu yn dilyn gyrfa yn y diwydiant. Gall aelodau aros yn y categori hwn am uchafswm o dair blynedd.

Mae gan yr aelodau hyn hawl i:

  • Mynychu rhag ddangosiadau a digwyddiadau eraill arbennig yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, naill ai wedi’u trefnu gan BAFTA yng Nghymru neu ar y cyd gyda digwyddiadau/cyrff eraill. Cynigir mynediad am ddim i aelodau i holl ddigwyddiadau, dangosiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr BAFTA yng Nghymru.

Aelodaeth Myfyrwyr Cangen (Cymru’n unig)

Cynigir y categori hwn i bob myfyriwr sydd yn dilyn cwrs llawn amser mewn astudiaethau’n berthynol i’r cyfryngau yng Nghymru. Rhaid darparu tystiolaeth o Statws Myfyriwr.

Mae gan yr aelodau hyn hawl i:

  • Mynychu rhag ddangosiadau a digwyddiadau eraill arbennig yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, naill ai wedi’u trefnu gan BAFTA yng Nghymru neu ar y cyd gyda digwyddiadau/cyrff eraill. Cynigir mynediad am ddim i aelodau i holl ddigwyddiadau, dangosiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr BAFTA yng Nghymru.​

Prisiau Aelodaeth 2017/18

  • Aelodaeth Llawn: £300.00 
  • Aelodaeth Cyswllt: £188
  • Aeldoaeth Cyswllt (Cyfradd Gwlad): £150
  • Aelodaeth Cangen: £118.00 
  • Aelodaeth Cangen (Cyfradd Gwlad): £75 
  • Aelodaeth Dechreuwr Gyrfa: £50.00 
  • Aelodaeth Myfyriwr: £35.00

Mae’r prisiau i gyd yn cynnwys TAW.

Mae pob aelodaeth ar gyfer unigolion wedi’u henwi ac ni ellir eu trosglwyddo. Mae pob cyfradd yn cynnwys TAW.

Mae gostyngiad o 20% ar gael i rhai cwmniau mawr a'r darlledwyr. Mae hefyd modd cael gostyngiad os yn dechrau 5 aelodaeth neu fwy o un cwmni. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Emma Price