You are here

Plant yng Nghymru yn Pleidleisio

21 May 2013

Mae plant ar draws Cymru wedi bod yn pleidleisio ar gyfer eu hoff raglen blant o’r ceisiadau i Wobrau BAFTA Cymru y flwyddyn hon. Mae BAFTA Cymru wedi bod yn gweithio gyda Film Club i gynnwys gymaint o blant ag sy’n bosib mewn dangosiadau a chynhaliwyd yn Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd.

Dangoswyd clipiau o hyd at bum munud i’r plant, oedd rhwng 7-11 mlwydd oed a gofynwyd i bleidleisio am eu ffefryn. Dywedodd Allison Dowzell, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru “Hwn yw’r tro cyntaf i ni wneud y pleidleisio ar gyfer y categori yma fel yma, ond mae’n gweud synwyr pan ydech yn meddwl fod y rhaglenni wedi ei greu ar gyfer yr oedran yma. Roedd y plant wrth eu bod di fod yn rhan o BAFTA ac fe profwyd i fod yn gynulledifa craff wrth bleidleisio.”

Fe fydd y pedair rhaglen a chafodd y canlyniadau uchaf yn mynd drwodd i sefyll o flaen rheithgor o arbennigwyr y diwydiant ac fe fydd enillydd yn cael ei dewis. Fe fydd y wobr yn cael ei gyflwyno yng Ngwobrau BAFTA Cymru ar y 29ain Medi 2013 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Mewn newyddion arall am Wobrau, hwn yw’r wythnos olaf i chi geisio am Wobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru i Gemau – dyddiad cau: Dydd Gwener 24 Mai. Am fwy o wybodaeth:British Academy Cymru Award for Games