You are here

Enillwyr Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru 2018

14 October 2018
British Academy Cymru Awards, St David's Hall, Cardiff, Wales, UK - 14 Oct 2018James Gourley/BAFTA/REX/Shutterstock

Keeping Faith/Un Bore Mercher yn ennill tair Gwobr

9 enillydd newydd wedi’u cyhoeddi ar draws categorïau crefft gan gydnabod talent newydd

Rydym wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2018. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol.

Cynhaliwyd y seremoni unwaith eto gan gyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, lle’r oedd y cyflwynwyr yn cynnwys cynhyrchwyr Bond, sef Barbara Broccoli OBE a Michael G. Wilson OBE; Aimee-Ffion Edwards (Detectorists, Peaky Blinders, Troy: Fall of a City); y cyflwynydd, Sean Fletcher; yr actor, Jason Hughes (Marcella, Midsummer Murders, Three Girls); un o gymdeithion newydd Doctor Who, sef Mandip Gill, a Sion Alun Davies (Craith/Hidden a Requiem). 

Roedd gwesteion eraill yn cynnwys Shaheen Jafargholi (Eastenders a Casualty), Joe Hurst (Wanderlust, The Casual Vacancy) a Dino Fetscher (Humans, Paranoid, Banana, Cucumber), Elen Rhys (Apostle, World War Z), Saran Morgan (Gwaith/Cartref) a’r soprano Elin Manahan Thomas.

Cyflwynwyd 22 Gwobr yn ystod y seremoni gerbron cynulleidfa o 850 o westeion ac eraill a ymunodd drwy ffrwd fyw i ddigwyddiadau gwylio arbennig yng Nghaerfyrddin, Caernarfon ac Efrog Newydd.

Enillodd Keeping Faith / Un Bore Mercher dair gwobr – ar gyfer Actores (Eve Myles), Cerddoriaeth Wreiddiol (Amy Wadge a Laurence Love Greed) ac Awdur (Matthew Hall).

Yn y categorïau perfformio eraill, enillodd Gareth ‘Alfie’ Thomas ei wobr BAFTA Cymru 1af fel Cyflwynydd Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game, ac yntau wedi’i enwebu am y tro cyntaf. Enillwyd y wobr Actor gan Jack Rowan, a oedd wedi’i enwebu am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf hefyd, am ei rôl yn Born to Kill.

Enillodd aelodau tîm Joio y wobr Drama Deledu ar gyfer Bang, a ffilmiwyd ar leoliad ym Mhort Talbot, ac enillodd Dafydd Hunt ei 3edd wobr BAFTA Cymru ar gyfer Golygu ar yr un gyfres.

Roedd unigolion o Gymru a fu’n gweithio ar gynyrchiadau yn y Deyrnas Unedig wedi ennill gwobrau eleni hefyd. Enillodd Sian Jenkins ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf yn y categori Dylunio Gwisgoedd am ei gwaith ar gyfres Requiem BBC One, a ffilmiwyd yng Nghymru. Enillodd Euros Lyn ei 6ed BAFTA am gyfarwyddo cyfres arall ar Channel 4, sef Kiri.

Enillodd Laura Martin-Robinson a Clare Hill y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer Richard and Jaco : Life with Autism, a enillodd y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol hefyd.

Enillwyd y wobr Gêm, a ddychwelodd i Wobrau BAFTA Cymru y llynedd, gan Wales Interactive a CTRL Movie ar gyfer Late Shift.

Enillwyd y wobr Rhaglen Blant gan Cic a’r wobr Rhaglen Adloniant gan Salon, ac enillodd Stuart Biddlecombe ei wobr BAFTA Cymru gyntaf am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen ar gyfer ei waith ar Craith / Hidden.

Enillodd Huw Talfryn Walters ei drydedd wobr BAFTA Cymru am Ffotograffiaeth: Ffeithiol ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man who Built America ac enillodd John Markham ei ail wobr BAFTA Cymru am Sain ar gyfer Band Cymru 2018.

Enillwyd y wobr Ffilm Fer gan Geraint Huw Reynolds ar gyfer Helfa’r Heli. Enillwyd y categori Cyfres Ffeithiol gan Surgeons: At the Edge of Life ac enillodd Week in Week Out y wobr Newyddion a Materion Cyfoes.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae heno wedi bod yn ddathliad gwych, bywiog a chyffrous o’r rhagoriaeth yn y diwydiant rydym yn bodoli i’w chydnabod. Gobeithiwn fod y rhai a ddaeth i’r seremoni ac a wyliodd y ffrwd fyw ledled y byd yn gwerthfawrogi’r unigolion dawnus sydd naill ai’n gweithio yng Nghymru neu’n dod o Gymru ac yn gweithio ar gynyrchiadau ar draws y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n wirioneddol ysbrydoledig ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf yn ein digwyddiadau yn ystod y flwyddyn i ddod.

Rydym wedi derbyn mwy o enwebiadau, croesawu mwy o westeion,  ymgysylltu â mwy o bartneriaid a gweithio gyda’n pwyllgor ymroddedig i sicrhau bod y gwobrau hyn, sef uchafbwynt y flwyddyn gynhyrchu, yn ddigwyddiad o’r radd flaenaf a fwynheir gan bawb. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn mynd o nerth i nerth.”

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, sef Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad, ac mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, FOR Cardiff, Genero, Prifysgol Glyndŵr, Hotel Chocolat, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Pinewood, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.


ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2018

(wedi’u rhestru yn ôl y drefn gyflwyno)

CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)

GARETH ‘ALFIE’ THOMAS YN Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game

GÊM (a noddir gan Ddylunio Gemau ym Mhrifysgol Glyndŵr)

LATE SHIFT

FFILM FER (a noddir gan Brifysgol De Cymru)

HELFA’R HELI

GOLYGU (a noddir gan Gorilla)

DAFYDD HUNT ar gyfer Bang

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

RICHARD AND JACO: LIFE WITH AUTISM

SAIN (a noddir gan AB Acoustics)

JOHN MARKHAM ar gyfer Band Cymru 2018

CERDDORIAETH WREIDDIOL (a noddir gan Yr Egin)

AMY WADGE / LAURENCE LOVE GREED ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher

AWDUR (a noddir gan The Social Club. Agency)

MATTHEW HALL ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddir gan Champagne Taittinger)

EUROS LYN ar gyfer Kiri

GWOBR SIÂN PHILLIPS (a noddir gan Pinewood Studios Group)

Lindy Hemming

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO (a noddir gan ELP)

STUART BIDDLECOMBE Craith

DYLUNIO GWISGOEDD (a noddir gan DRESD)

SIAN JENKINS ar gyfer Reqiuem

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL (a noddir gan Genero)

HUW TALFRYN WALTERS ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America

NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)

WEEK IN WEEK OUT

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddir gan Capital Law)

LAURA MARTIN-ROBINSON a CLAIRE HILL ar gyfer Richard and Jaco: Life with Autism

CYFRES FFEITHIOL

SURGEONS: AT THE EDGE OF LIFE

RHAGLEN ADLONIANT (a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

SALON

RHAGLEN BLANT (a noddir gan FOR Cardiff)

CIC

DRAMA DELEDU (a noddir gan Bad Wolf)

BANG

CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU

Mavis Nicholson

ACTOR (a noddir gan AUDI)

JACK ROWAN fel Sam YN Born to Kill

ACTORES (a noddir gan Waterstone Homes)

EVE MYLES fel Faith Howells YN Keeping Faith/Un Bore Mercher