You are here

Cyhoeddi enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2018

6 September 2018
Cymru Nominations 2018

Born to Kill a Keeping Faith/Un Bore Mercher yn arwain y ffordd gyda chwe enwebiad yr un

Pum enwebiad yr un i Bang a Craith

Charlotte Church a Gareth ‘Alfie’ Thomas yn cael eu henwebu am y tro cyntaf yn y categori Cyflwynydd

 

Rydym wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru.

Gwnaed y cyhoeddiad yn fyw ar Facebook am yr ail flwyddyn yn olynol gan Elin Fflur.

Bydd y 27ain seremoni’n cael ei chynnal ar 14 Hydref 2018 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac fe’i harweinir gan Huw Stephens am y bedwaredd flwyddyn. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Eleni, bydd Gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 20 o gategorïau cynhyrchu, perfformio, crefft a gemau.

Y cyfresi teledu Born to Kill a Keeping Faith/Un Bore Mercher sy’n arwain yr enwebiadau gyda chwech yr un.

Mae Born to Kill wedi cael ei enwebu yn y categorïau Actor ar gyfer Jack Rowan fel Sam, a enwebwyd yng Ngwobrau Teledu’r Academi Brydeinig eleni hefyd; Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer Bruce Goodison, Golygu ar gyfer John Richards sydd wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru, Cerddoriaeth Wreiddiol ar gyfer Samuel Sim, Ffotograffiaeth a Goleuo ar gyfer Sam Care a Drama Deledu.

Mae Keeping Faith/Un Bore Mercher wedi cael ei enwebu yn y categorïau Actor ar gyfer Mark Lewis Jones, fel Steve Baldini; Actores Eve Myles, fel Faith Howells; Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Sarah-Jane Perez; Cerddoriaeth Wreiddiol ar gyfer Amy Wadge a Laurence Love Greed; Ffotograffiaeth a Goleuo ar gyfer Steve Lawes a Matthew Hall ar gyfer Awdur.

Yr enwebeion eraill yn y categori Actor yw derbynnydd Tlws Siân Phillips yn 2008, sef Ioan Gruffudd, am ei rôl fel Andrew Earlham yn Liar, a Rhodri Meilir am ei rôl fel Dylan Harris yn Craith. Yn y categori Actores, mae Amanda Mealing yn cael ei henwebu am yr eildro am ei rôl fel Connie Beauchamp yn Casualty, ochr yn ochr ag Annes Elwy fel Beth March yn Little Women, a Gwyneth Keyworth fel Megan yn Craith, sydd ill dwy’n cael eu henwebu am y tro cyntaf.

Yn y categori Cyflwynydd, mae’r cyn-enillydd Rhod Gilbert a chyn-enwebai Beti George yn cael eu henwebu ochr yn ochr â Charlotte Church a Gareth ‘Alfie’ Thomas, sy’n cael eu henwebu am y tro cyntaf.

Mae enillwyr blaenorol Gwobr BAFTA Cymru, sef Jeff Murphy a Roger Williams, yn cael eu henwebu am y wobr Awdur ar gyfer Hinterland a Bang, yn ôl eu trefn. Yr enwebeion yn y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen yw Bruce Goodison ar gyfer Born to Kill, Euros Lyn ar gyfer Kiri, Gareth Bryn ar gyfer Craith a Philip John ar gyfer Bang.

Yr enwebeion yn y categori Rhaglen Ddogfen Unigol yw Charlotte Church – Inside my Brain; Hidden Cardiff with Will Millard; Rhod Gilbert: Stand up to Shyness a Richard and Jaco: Life with Autism.

Yn y categori Gêm, mae dau deitl Wales Interactive, sef Don’t Look Twice, a wnaed gyda Red and Black Films, a Late Shift, a wnaed gyda CTRL Movie, yn cael eu henwebu ochr yn ochr â Byd Cyw gan Thud Media/Boom Cymru.

Bydd derbynyddion Tlws Siân Phillips, a noddir gan Pinewood Studios Group, a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Eithriadol i Deledu, yn cael eu cyhoeddi mewn Parti i’r Enwebeion yn gynnar ym mis Hydref.  Bydd y ddwy Wobr yn cael eu cyflwyno yn y seremoni ar 14 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw o Neuadd Dewi Sant unwaith eto eleni, a bydd digwyddiadau gwylio arbennig yn cael eu cynnal gan Gymry Efrog Newydd yn The Liberty yn Manhattan, yn ogystal ag mewn lleoliadau newydd, sef Galeri Caernarfon a’r Egin, Caerfyrddin. Noddir y ffrwd gan Iceland.

Unwaith eto eleni, bydd BAFTA yn ffrydio cyfweliadau â gwesteion ac enwebeion yn fyw i Facebook o’r carped coch.

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad ac mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: AB Acoustics, Aberystwyth University, Audi UK, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cardiff Council, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, FOR Cardiff, Genero, Glyndŵr University, Hotel Chocolat, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Pinewood, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, St Davids Hall, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, University of South Wales, Villa Maria, Waterstone Homes, Welsh Government a Working Word.

Pris tocynnau i fynd i’r derbyniad Siampên Taittinger, y Gwobrau a’r Parti yw £98 yr un, ac maen nhw ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 20 878500 / www.stdavidshallcardiff.co.uk.

Gall aelodau BAFTA Cymru brynu tocynnau am bris gostyngedig o £68 yr un, a dylai’r rhai sy’n dymuno ymuno â BAFTA Cymru ymweld â www.bafta.org i gael rhagor o wybodaeth.

Gweler isod am y rhestr lawn o enwebeion

 


Rhestr lawn o Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2018

TLWS SIÂN PHILLIPS (a noddir gan Pinewood Studios Group): Fe’i cyhoeddir ar 4 Hydref

GWOBR CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU: Fe’i cyhoeddir ar 4 Hydref


ACTOR (a noddir gan AUDI)

IOAN GRUFFUDD fel Andrew Earlham YN Liar
JACK ROWAN fel Sam YN Born to Kill
MARK LEWIS JONES fel Steve Baldini YN Keeping Faith/Un Bore Mercher
RHODRI MEILIR fel Dylan Harris YN Craith


ACTORES (a noddir gan Waterstone Homes)

AMANDA MEALING fel Connie Beauchamp YN Casualty
ANNES ELWY fel Beth March YN Little Women
EVE MYLES fel Faith Howells YN Keeping Faith/Un Bore Mercher
GWYNETH KEYWORTH fel Megan YN Craith


RHAGLEN BLANT (a noddir gan FOR Cardiff)

CIC
DEIAN A LOLI
TITSH


DYLUNIO GWISGOEDD

SARAH-JANE PEREZ ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher
SIAN JENKINS ar gyfer Reqiuem
ZOE HOWERSKA ar gyfer Bang


CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddir gan Capital Law)

IAN MICHAEL JONES ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America
JAMES HALE ar gyfer Hidden Cardiff with Will Millard
LAURA MARTIN-ROBINSON a CLAIRE HILL ar gyfer Richard and Jaco: Life with Autism
MOLLY-ANNA WOODS ar gyfer Sweet Sixteen: A Transgender Story


CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddir gan Champagne Taittinger)

BRUCE GOODISON ar gyfer Born to Kill
GARETH BRYN ar gyfer Craith
PHILIP JOHN ar gyfer Bang
EUROS LYN ar gyfer Kiri


GOLYGU (a noddir gan Gorilla)

DAFYDD HUNT ar gyfer Bang
JOHN RICHARDS ar gyfer Born to Kill
MADOC ROBERTS, JOHN PARKER a DAFYDD HUNT ar gyfer Warship
SARA JONES ar gyfer Craith


RHAGLEN ADLONIANT

ONLY MEN ALOUD IN BOLLYWOOD
SALON
SIR GARETH EDWARDS AT 70
UCHAFBWYNTIAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2017


CYFRES FFEITHIOL (a noddir gan Villa Maria)

CERYS MATTHEWS A’R GOEDEN FALED
EXTREME WALES WITH RICHARD PARKS
ONE BORN EVERY MINUTE
SURGEONS: AT THE EDGE OF LIFE


GÊM (a noddir gan Ddylunio Gemau ym Mhrifysgol Glyndŵr)

BYD CYW
DON’T KNOCK TWICE
LATE SHIFT


NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)

WALES INVESTIGATES
WEEK IN WEEK OUT
NEWYDDION 9 YMOSODIAD MANCEINION


CERDDORIAETH WREIDDIOL

AMY WADGE / LAURENCE LOVE GREED ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher
SAMUEL SIM ar gyfer Born to Kill
SIMON JONES ar gyfer Stella


FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO (a noddir gan ELP)

SAM CARE ar gyfer Born to Kill
STEVE LAWES ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher
STUART BIDDLECOMBE ar gyfer Craith


FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL (a noddir gan Genero)

ALED JENKINS ar gyfer Y Ditectif
HUW TALFRYN WALTERS ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America
LUKE PAVEY ar gyfer The River Wye with Will Millard


CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)

BETI GEORGE YN Beti George: Colli David
CHARLOTTE CHURCH YN Charlotte Church: Inside My Brain
GARETH ‘ALFIE’ THOMAS YN Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game
RHOD GILBERT YN Rhod Gilbert: Stand Up to Shyness


FFILM FER (a noddir gan Brifysgol De Cymru)

BEDDGELERT
FIRE IN MY HEART
HELFA’R HELI
NECKFACE


RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

CHARLOTTE CHURCH – INSIDE MY BRAIN
HIDDEN CARDIFF WITH WILL MILLARD
RHOD GILBERT: STAND UP TO SHYNESS
RICHARD AND JACO: LIFE WITH AUTISM


SAIN (a noddir gan AB Acoustics)

JOHN MARKHAM ar gyfer Band Cymru 2018
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Kiri
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Stella


DRAMA DELEDU

BANG
BORN TO KILL
PARCH


AWDUR (sponsored by The Social Club. Agency)

JEFF MURPHY ar gyfer Hinterland
MATTHEW HALL ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher
ROGER WILLIAMS ar gyfer Bang