Caerdydd, 11 Gorffennaf 2014: Mae Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi mai Ludus gan Cube Interactive/Boom Kids yw enillydd Gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol eleni, gyda chefnogaeth Prifysgol Glyndŵr.
Ynglŷn â Ludus
Gan gael ei ddatblygu ar gyfer iOS ac Android, gan Cube Interactive and Boom Kids, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, cyhoeddwyd Ludus gan y BBC ar gyfer y sioe gêm chwarae ar sianel CBBC. Gall plant ddefnyddio’r ap i chwarae ar yr un pryd â’r cystadleuwyr ar y sgrin wrth wylio’r rhaglen, p’un ai a yw’n fyw ar y teledu neu drwy wasanaeth iPlayer y BBC. Mae’r ap yn gweithio trwy wrando am arwyddion wedi’u mewnosod yn y darllediad, na all y gwylwyr eu clywed, i’w helpu i gydamseru ei saith gêm gyda’r rhai a ddangosir ar y teledu. Mae’r ap yn rhoi cyfle i chwaraewyr drechu’r cystadleuwyr ar y sgrin.
Cyflwyno'r Wobr
Mewn seremoni a gynhaliwyd gan BAFTA Cymru ddydd Gwener, 11 Gorffennaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, fel rhan o Sioe Datblygu Gemau Cymru ac Wythnos Arloesedd Digidol Cymru, cyflwynwyd y Wobr a thair cymeradwyaeth, gan Mitu Khandaker-Kokoris, sef enillydd Breakthrough Brit BAFTA. Mae Mitu yn ddylunydd gemau, rhaglennwr a sefydlydd stiwdio annibynnol un fenyw, The Tiniest Shark. Cafodd Mitu ei henwi yn un o’r 30 o ddatblygwyr addawol gorau o dan 30 oed, gan gylchgrawn Develop yn 2012.
Mae’r tair cymeradwyaeth a gyflwynwyd yn ystod y noson yn cydnabod rhagoriaeth yn y meysydd canlynol: Cyflawniad Technegol, Cyflawniad Artistig a Dyluniad Gemau.
Enillwyr y Wobr a Chymeradwyaethau yn 2014
GWOBR BAFTA CYMRU AR GYFER GEMAU A PHROFIAD RHYNGWEITHIOL
LUDUS – Cube Interactive / Boom Kids
CYMERADWYAETH AR GYFER DYLUNIAD GÊM
RED REMOVER BLAST – Gaz Thomas Media Ltd
CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD ARTISTIG
MASTER REBOOT – Wales Interactive Ltd
CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD TECHNEGOL
REVERIE – Yello Brick