You are here

Gwobrau BAFTA yng Nghymru yn 2010

23 May 2010
The BAFTA Cymru Awards, 23 May 2010BAFTA/Huw John

Mae’r enillwyr wedi’u cyhoeddi heddiw ar gyfer 19fed Seremoni Wobrwyo Flynyddol BAFTA yng Nghymru a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Gwobr Siân Phillips yn mynd i Rob Brydon a Gwobr Arbennig BAFTA yng Nghymru yn anrhydeddu Dr Geraint Stanley Jones, CBE.

Mae Gwobr Gwyn Alf Williams am raglen neu gyfres o raglenni sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru yn mynd i Catrin Evans’, Dwy Wraig Lloyd George, Gyda Ffion Hague.

Mae ffilmiau annibynnol Cymreig yn arwain y ffordd eleni gyda cynhyrchiad A Bit of Tom Jones yn derbyn Gwobr BAFTA yng Nghymru am y Ffilm/Drdama Orau, Cwcw yn derbyn dwy wobr trwy Eiry Thomas’ am Yr Actores Orau a John Hardy am Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.

Derbyniodd cynyrchiad Boomerang o Ryan a Ronnie ar gyfer S4C y mwyafrif o wobreuon ar y noson, gan dderbyn mwgwd arbennig BAFTA yng Nghymru yng nghategoriau; Y Cyfarwyddwr Gorau: Drama, Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin, Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama, a pherfformiad Aled Pugh’o ‘Ryan’ yn teilyngu y wobr am Yr Actor Gorau.

Derbyniodd cynhyrchiadau iaith- Gymreig wobreuon mewn cyfanswm o 14 o gategoriau.

Derbyniodd cyfresi BBC Cymru Wales, Doctor Who a Torchwood, ddwy wobr yr un – gyda Torchwood yn derbyn y wobr am Y Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu.

Derbyniodd Tidy Productions (mewn cysylltiad a Green Bay Media) ddwy wobr am Ar y Tracs a derbyniodd cynhyrchiad Carwyn gan Green Bay Media ddwy wobr am - Y Rhaglen Ddogfen / Ddrama Ddogfen Orau ac Y Cyfarwyddwr Gorau.

Fe gipiodd Huw Edwards y wobr am y Cyflwynydd Gorau Ar Y Sgrin yn dilyn ei ran yn cyflwyno The Prince and the Plotter.