Mae teithio mewn amser, boed hynny yn ôl neu ymlaen, i weld fel pe bai’n denu ffigyrau gwylio uchel. Nid Ffuglen Wyddonol ydyw, mae ganddo genre cyfan i'w hunan, ac mae cynulleidfaoedd yn heidio ato. Mae Goodnight Sweetheart yn gomedi, mae Life On Mars yn ddrama, a phwy a ŵyr sut mae categoreiddio Doctor Who? Mae teithio mewn amser yn cynnig cynifer o bosibiliadau i awdur - mae unrhyw beth yn bosib.
Felly camwch ar fwrdd ein TARDIS ac ymunwch â Steven Moffat, awdur Doctor Who sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Ashley Pharoah, enillydd gwobr Emmy ac awdur Life on Mars, Ashes to Ashes a Maurice Gran, awdur ac enillydd gwobr BAFTA am Goodnight Sweetheart, am noson o deithio mewn amser a hwyl yng Nghaerdydd, cartref dramâu sy'n teithio mewn amser.
Wedi ei gynhyrchu gan BAFTA Llundain a BAFTA Cymru, cadeirydd y noson fydd Laurence Marks, enillydd gwobr BAFTA ac awdur cyfresi comedi The New Statesman, Goodnight Sweetheart a Birds of a Feather.
Supported by BBC Cymru Wales and by The ATRiuM