You are here

Aelodaeth BAFTA yng Nghymru

17 August 2011

Mae bod yn aelod o BAFTA yng Nghymru yn eich galluogi i ymuno â rhwydwaith o’r gorau yn y diwydiannau creadigol. Mae bod yn gysylltiedig gydag ymarferwyr ar draws y DU ac UDA yn rhoi cyfle i chi chwarae rhan gweithredol mewn cefnogi ffurfiau celfyddydol y ddelwedd symudol.

Fel aelod bydd cyfle cyffrous i chi ddylanwadu ar ganlyniad ein Gwobrwyon Cymru Academi Prydeinig oherwydd ein bod yn dibynnu ar eich arbenigedd i lywio’r broses bleidleisio a rheithgorau.

Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar ein rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys rhag ddangosiadau, dosbarthiadau meistr, sesiynau Holi ac Ateb yn ogystal â’n seremoni Wobrwyo.

Rhai o’r uchafbwyntiau dros y 12 mis diwethaf ar gyfer ein haelodau...

Gareth Edwards, y dewin effeithiau gweledol, enillydd gwobr BAFTA ac enwebai ar gyfer gwobr Emmy, yn rhannu ei gyfrinachau gyda chynulleidfa lawn yn dilyn dangosiad o’i ffilm gyntaf Monsters;

Premiere byd cyntaf o’r sioe blant fyw, Tati's Hotel a ddangoswyd i gynulleidfa llawn cyffro yn cynnwys gwesteion arbennig o The Joshua Foundation, elusen sydd yn helpu i greu profiadau cofiadwy i blant sydd yn dioddef o ganser angheuol;

Rhag ddangosiad gyda chast a chriw y ffilm Gymreig newydd, Resistance –wedi’i haddasu o nofel Owen Sheers. Ymunodd yr actores Sharon Morgan gyda Sheers ar y llwyfan ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb;

Harry Potter and the Deathly Hallows part 2, The Guard, Horrid Henry: The Movie, Patagonia, Third Star, Mr Nice, Ironclad, Submarine, Baker Boys (TV), Black Swan, The Indian Doctor (TV) a Sherlock (TV) oedd ychydig o’r nifer o rag ddangosiadau ffilm a theledu a gynhaliwyd ar gyfer ein haelodau.

Yn ychwanegol at ein rhaglen ddigwyddiadau cewch fanteisio hefyd ar fynediad am ddim i amrediad o sinemâu ar draws Cymru er mwyn gwylio’r ffilmiau diweddaraf.

Mae’r ymchwil am ragoriaeth yn treiddio trwy ein holl waith elusennol; os byddwch yn ymuno â BAFTA rydych yn rhan annatod o’n llwyddiant. Rydym wrthi’n brysur yn creu rhaglen amrywiol a llawn o ddigwyddiadau unigryw ar gyfer 2012 er mwyn helpu i addysgu ac ysbrydoli’r diwydiant a’r cyhoedd fel ei gilydd. Boed yn aelod o’r gynulleidfa neu yn gyfranogwr, rydym yn gobeithio y cawn gyfle i’ch gweld yn aml.

DIDDORDEB MEWN YMUNO?