Eleni, mae BAFTA Cymru yn dathlu tair blynedd ar hugain o wobrwyo rhagoriaeth drwy gyfrwng ffilm a theledu. Dydd Sul 26 Hydref 2014 – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd - Dewch i ymuno â ni am noson o adloniant a dathlu gyda’r sêr.
Yn ystod Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 28 o gategorïau rhaglenni, crefftau a pherfformiadau i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilmiau a theledu yng Nghymru. Arweinir y seremoni gan y cyflwynydd radio a theledu, Jason Mohammad, a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwyniadau gwobrau gan enwogion.
Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru: 029 2063 6464 / www.wmc.org.uk
Aelod BAFTA: £60 / Y Diwydiant (Ddim yn Aelod): £80
(Yn cynnwys derbyniad Siampên Taittinger a dathliad wedi’r Gwobrau gydag adloniant, diodydd a canapés, a chopi o rhaglen y noson)
Tocynnau i’r cyhoedd: £10
(Yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd)
Rhaglen (ar gael ar y noson): £5
17.30 - Derbyniad Siampên Taittinger
18.30 - Cymerwch eich seddi yn Theatr Donald Gordon
19.00 - Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2014
21.30 - Dathliad wedi’r Gwobrau gydag adloniant, diodydd a canapés nes yn hwyr
Hanner nos - Cerbydau
Am y newyddion diweddaraf:
Twitter: @BAFTACymru / #cymruawards
Instagram: baftacymru
Canolfan Mileniwm Cymru - Twitter: @theCentre / #cymruawards
=> BAFTA Cymru Nominations list including Sponsors updated 2 Oct (515.2 KB)