
Mae pedwerydd ymddangosiad ein sinema ar Faes yr Eisteddfod wedi croesawu 2,500 o ymwelwyr dros wyth diwrnod, y mwyaf ar gyfer Eisteddfod wledig ers sefydlu Sinemaes yn 2016. Rydym hefyd wedi gweini tua 2,400 o botiau o bopcorn!
Eleni cawsom ddiwrnodau thematig hefyd – yr amgylchedd, gyda dwy drafodaeth arbennig, chwedlau a mytholeg a sgiliau, oedd yn cynnwys sgyrsiau a gweithdai ar rolau o fewn y diwydiant mewn ysgrifennu, lleoliadau a gwneud ffilmiau byrion. Roedd hefyd cyflei rwydweithio ac i ddysgu sut i greu stori fwrdd ffilm.
Mae cynnwys y tîpî wedi’i gyflwyno gan 13 partner craidd a phedwar partner sesiwn ar. Cawsom gefnogaeth hefyd gan wirfoddolwyr o Ŵyl Wicked Gogledd Cymru.
Dyma drawsdoriad o ymateb y gynulleidfa yn ystod yr wythnos:
Y ffilmiau archif
“Casgliad hyfryd o ffilmiau yn cofio y gorffennol ac yn adnewyddu atgofion o fy ngorffennol i!” Ann (68) o Conway
“Lle gwych i ddod i guddio rhag y glaw, rhoi ein traed i fyny ac ail-fyw clasuron fel C’Mon Midffild! Diolch yn fawr” Rhian (38) a Nansi (9) o Moelfre
“Gwych! Wedi mwynhau gwylio'r ffilmiau gwych hyn yn fawr. Cipolwg hyfryd ar ein hanes. Da iawn!” Shaun (59) o Rhos on Sea
Y cynnwys lleol
“Rhaglen wych! Diolch am gynnig cyfle i gyflwyno gwaith gan ysgolion lleol. ”Aron (30) o Lanrwst
Dangosiadau ffilmiau a rhaglenni a sgyrsiau dathlu
“Wedi mwynhau gwylio Beryl, Cheryl a Meryl yn fawr a noson hwyliog iawn a sgwrs hwyl! BCM am byth! ”Delyth (51) o Llansannan
“Ffilm ddoniol, er ei bod yn 10 oed mae'n dal yn berthnasol - a wedi mwynhau clywed gan yr actorion. Amser am un arall?” Mared (15) o Lanelli
“Yn giwt ac yn braf, roeddwn i'n ei chael hi'n oleuedig ac yn gynnes. Diolch! ”Elinor (22) o Swydd Derby (Pa ffilm? LW)
“Trafodaeth wych a phwysig am yr her hinsawdd, diolch am ei chynnal.” Phillippa (66) Llangrannog
Cyflwynir Sinemaes gan:
hannah