You are here

BAFTA Cymru yn penodi Stifyn Parri fel Ymgynghorydd

4 February 2021
Stifyn ParriBAFTA

Mae BAFTA Cymru wedi datgan heddiw eu bod wedi penodi Stifyn Parri fel ymgynghorydd i'r sefydliad yng Nghymru.

Iau 4 Chwefror 2021: Mae'r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Prydain yng Nghymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi penodi Stifyn Parri i weithredu fel ymgynghorydd ar gyfer y sefydliad.

Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gynhyrchioli a rheoli cysylltiadau gyda'r diwydiant ffilm, gemau a thedelu yng Nghymru, ynghyd â hyrwyddo aelodaeth, denu noddwyr a chodi arian i'r sefydliad. Bydd Stifyn hefyd yn gyfrifol am oruwchwilio cyllidebau yn ogystal â chefnogi pwyllgor BAFTA Cymru. Mae Stifyn yn dod â chyfoeth o brofiad o hyrwyddo'r celfyddydau Cymreig yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Roedd Stifyn yn gyfarwyddwr cysylltiadau cyhoeddus Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen am bedair mlynedd yn olynol, ynghyd â bod yn sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol SWS (Social Welsh and Sexy), y gymdeithas rwydweithio fyd-enwog a wnaeth gynnal digwyddiadau ysblennydd yn Llundain, Spaen, Efrog Newydd a Rwsia.

Mae Stifyn Parri yn Entrepreneur ac yn ddiddanwr sydd wedi cael dros ddeugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant creadigol ac sydd wedi gweithio fel cynhyrchydd, cyflwynydd, ymgynghorydd a mentor. Yn 2001 mi sefydlodd MR PRODUCER wnaeth gynhyrchu a llwyfanu rhai o ddigwyddiadau mwya’ Cymru gan gynnwys Penwythnos Agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, 11 Seremoni Wobrwo BAFTA Cymru, Cyngerdd Agoriadol Cwpan Ryder Cymru yn Stadiwn y Milleniwm i Sky 1 a Sky Arts, a chyngerdd Mawreddog Hanner Canmlwyddiant Aberfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda Michael Sheen, Bryn Terfel a Sian Phillips.

Fel actor bu'n serennu fel Marius yn Les Miserables yn y West End, fel Christopher Duncan yn Brookside i Channel 4 ac yn cael ei adnabod fel cyflwynydd a diddanwr ar deledu, ar y radio a digwyddiadau a chyngherddau byw.

Dywedodd Stifyn Parri, ymgynghorydd BAFTA Cymru: "Y bobl a datblygu cysylltiadau yw curiad calon ein diwydiant ac mae fy nhyrfa o fewn y diwydiant wedi bod yn amrywiol a deud y lleia'. Mi rydw i wrth fy modd yn cael dod â fy holl brofiad i'r rôl newydd yma o fewn BAFTA Cymru, wrth weithio hefo partneriaid newydd, denu aelodau newydd, hyrwyddo talent Cymreig a dathlu llwyddianau ein diwydiant i'r radd uchaf. Roeddwn i mor falch o gael cyflwyno y Seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru gyntaf erioed, blynyddoedd yn ol, ac yr un mor falch heddiw o fod yn ymgynghorydd iddynt".