You are here

BAFTA Cymru yn cefnogi agoriad sinema newydd Galeri gyda digwyddiad arbennig

3 September 2018
Rhys Ifans

Mae Galeri, Caernarfon wedi cadarnhau mai’r seren Hollywood o Rhuthun - Rhys Ifans - fydd yn agor estyniad newydd £4m Galeri ar ddydd Gwener, 21ain o Fedi.

I ddathlu’r diwrnod – bydd amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u trefnu ar y cyd gyda BAFTA Cymru ac Into Film. Bydd sesiwn ar gyfer ysgolion yr ardal yn y dydd a noson yng nghwmni’r actor yn cloi’r diwrnod.

Mae agor y sinema newydd yn Galeri yn un o brosiectau diweddaraf menter gymdeithasol Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon cynt). Mae’r fenter wedi datblygu ac adfywio dros ugain o eiddo yng Nghaernarfon gyda adeilad Galeri ar Ddoc Victoria y prosiect fwyaf hyd yn hyn.

O fewn yr estyniad 800m2 mae dwy sgrin pwrpasol (119 a 65 sedd), fydd yr unig sinema aml-sgrin anibynnol yng Nghwynedd, Môn a Chonwy; mynedfa a swyddfa docynnau newydd, gofod arddangos celf/chrefft, ystafell weithdai celf pwrpasol ac ystafell gyfarfod.

Mae’r prosiect wedi bod ar y gweill 8 mlynedd, ac yn bosib drwy becyn ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru (arian Loteri), Croeso Cymru (rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth) drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a chynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf: “O edrych ar pa mor lewyrchus ydi Caernarfon heddiw, mae’n hawdd anghofio sut gyflwr oedd y dref ynddo fo nol yn 1992 pan ddaru Galeri Caernarfon - o dan ei hen enw Cwmni Tref – ddechrau gweithredu nifer fawr o brosiectau adfywio o fewn y Dref Gaerog. Pymtheg mlynedd yn union ar ôl torri’r dywarchen cyntaf un ar safle Canolfan Galeri mae agor yr estyniad yn gorffen yr adeilad. Ers ei agor mae Galeri yn gyson wedi cynnal dros 400 o ddigwyddiadau unigol pob blwyddyn. Mae’r Cwmni ei hun yn cyflogi 51 o bobol lleol ac mae Galeri yn gartref i sawl menter creadigol sydd yn cyfrannu’n helaeth at economi a diwylliant yr ardal gyfan. Mae agor sinema pwrpasol cyntaf Caernarfon ers 1984 yn destun balchder i bawb sydd yn gweithio’n Galeri ac mae cael Rhys Ifans i’w agor yn gwneud yr agoriad yn achlysur mwy arbennig byth.”

Wrth ymateb i’r gwahoddiad i agor yr estyniad, dywedodd Rhys Ifans: "Y buddsoddiad mwyaf y gallwn ni ei wneud fel cymdeithas ydi rhoi cyfle i bobl brofi'r celfyddydau, ac rydw i mor falch o fod yn agor y sgriniau sinema newydd yn Galeri. Mae ffilm yn gyfrwng mor bwerus a all fynd â ni i fyd arall, ein hysbrydoli ni efo straeon gwych a’n dysgu ni am yr emosiynau ‘dan ni i gyd yn eu rhannu. Mae'r buddsoddiad pwysig hwn yn gyfle gwych i'r gymuned leol allu gwylio'r ffilmiau diweddaraf gyda'i gilydd ar eu stepen drws."

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda ysgolion uwchradd drwy wahoddiad yr elusen Into Film Cymru. Bwriad yr elusen yw i ategu mentrau a datblygiadau cenedlaethol allweddol, ac mae wedi'i theilwra i ateb anghenion a gofynion y sectorau addysg a chreadigol yng Nghymru.

Dywed Non Stevens o Into Film Cymru: “Mae Into Film yn bartner strategol i gynllun Rhwydwaith Cymulleidfa Ffilm y BFI sydd yn cefnogi sinemau fel Galeri a sydd yn sicrhau bod cydweithio i ymgysylltu gyda cynulleidfaoedd ifanc a’u cyflwyno i ystod eang o ffilmiau – sydd yn ganolol i’n gwaith. Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn Galeri yn rhoi cyfle i bobl ifanc yr ardal ddysgu a dathlu am y diwydiant ac i ysbrydoli pobl ifanc a’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr a chynulleidfaoedd ffilm.”

Yn cloi’r diwrnod, am 19:30, bydd ‘Noson yng Nghwmni’ arbennig yn theatr Galeri gyda Rhys Ifans. Lisa Gwilym fydd yn cadeirio’r sgwrs/noson Gymraeg hwn ac yn holi Rhys am ei yrfa ddisglair ar y llwyfan a’r sgrîn. Ers bron i 30 mlynedd mae Rhys wedi bod yn portreadau cymeriadau cofiadwy boed rheiny yn greadigaethau ffuglennol neu yn bobl go iawn. Trefnir y noson mewn partneriaeth rhwng BAFTA Cymru ac Into Film Cymru a bydd y tocynnau (£10/£7) yn mynd ar werth am 10:00 fore Mercher, Medi’r 5ed.

"Mae BAFTA Cymru yn falch iawn i gefnogi'r digwyddiad arbennig hwn i nodi agoriad y sinemâu newydd yn Galeri" meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru. "Gan ein bod wedi gweithio gyda Galeri am 3 blynedd ar ddigwyddiadau rheolaidd, bydd yn gyffrous iawn i ddyfeisio ffyrdd newydd i'r cyhoedd ymgysylltu â'r gorau o dalent ffilm a theledu Cymraeg y gall y sinemâu hyn eu cynnal. Rydym yn hyderus y bydd Rhys Ifans yn cynnig digwyddiad cyntaf i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o greadigwyr ac rydym yn ddiolchgar iawn i Rhys, fel derbynnydd Gwobr Sian Phillips BAFTA Cymru, am ei gefnogaeth."

Bydd rhaglen sinema lawn-amser Galeri yn cynnwys amrywiaeth o ffilmiau drwy’r flwyddyn sydd yn cynnwys y ffilmiau newydd. Mae’r datblygiad hefyd yn sicrhau bod rhaglen artistig ehangach y cwmni a’r cyfleoedd llogi drwy gynadleddau a priodasau yn cael ei ddatblygu a chreu model busnes fwy cynaladwy.

Am y diweddaraf, sioeau a tocynnau – galericaernarfon.com a cofiwch ddilyn ar Facebook a Twitter.