Wrth i ni edrych ymlaen at 2015 gyffrous, mae BAFTA Cymru wedi gosod nodau a dyheadau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Gan weithio’n agos gyda’r Cadeirydd ailetholedig, Ian Jones, a Phwyllgor 2015, sydd â ffocws ehangach o ran sgiliau, profiad a lleoliad, ac aelodau staff newydd, byddwn yn cyflwyno nifer o gynlluniau newydd.
Am y tro cyntaf yn 2015, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Stiwdios Pinewood, a fydd yn cynnal digwyddiadau i weithwyr proffesiynol profiadol, yn ogystal â’r rheiny sy’n cychwyn ar eu gyrfa yn y diwydiant. Bydd un digwyddiad yn canolbwyntio ar ôl-gynhyrchu ac yn cael ei gynnal yn y stiwdio newydd yma yng Nghymru. Bydd y digwyddiad hwn yn adeiladu ar y cydweithrediad rhwng BAFTA Cymru a Creative Europe, y byddwn yn cynnal tri digwyddiad â nhw eleni i gomisiynwyr.
Byddwn yn cynyddu nifer y digwyddiadau a gynigir i’n haelodau 35% eleni - gan gynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr i fyfyrwyr a’r rheiny sy’n cychwyn ar eu gyrfa yn y diwydiant – sef Cyfres yr Enillwyr.
Mae’r rhain eisoes wedi cychwyn, gyda digwyddiadau’n canolbwyntio ar Keri Collins, sef enillydd Gwobr Torri Drwodd BAFTA Cymru 2014; cyfres o dri digwyddiad yn ymwneud ag effeithiau arbennig gweledol ac effeithiau arbennig sain ym Mhrifysgol De Cymru yn canolbwyntio ar Doctor Who, Da Vinci’s Demons a Sherlock; yn ogystal â digwyddiad yn ymwneud â The Call Centre ym Mhrifysgol Caerdydd.
Byddwn yn cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn cynnal 150% yn fwy o ddigwyddiadau y tu allan i Gaerdydd o gymharu â 2014. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys darllediadau rhagwylio, sesiynau holi ac ateb, sesiynau gyrfaol a mwy, a byddwn yn adeiladu ar ein gwaith blaenorol gyda’r BFI a BBC Cymru Wales o ran y darllediadau rhagwylio Doctor Who a gynhelir yn 2014-15.
Yn y brifddinas, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partner allweddol, Canolfan Gelfyddydau Chapter, i gynnal darllediadau rhagwylio a dosbarthiadau meistr ar ail ddydd Mercher pob mis. Ym mis Chwefror, byddwn yn ail-lansio ein partneriaeth â Cineworld – mwy i ddilyn ar y stori hon maes o law – a byddwn yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio chwarterol i aelodau.
Mae ein cynlluniau eraill eleni yn cael eu hysgogi gan ein bwriad i gynyddu ein sail aelodaeth – a sicrhau ein bod yn ymgysylltu â holl weithwyr proffesiynol y diwydiant yng Nghymru, yn ogystal â’r rheiny sy’n newydd i’r diwydiant a myfyrwyr sydd â diddordeb yn y maes.
Byddwn ni hefyd yn galw am fwy o geisiadau gan weithwyr proffesiynol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i fod yn Aelodau Llawn BAFTA ym maes teledu a gemau, er mwyn sicrhau bod niferoedd yr aelodau llawn yng Nghymru yn cymharu â changhennau eraill BAFTA yn yr Alban ac America, ac er mwyn sicrhau bod gennym ni lais cryf o Gymru wrth drafod holl gynlluniau BAFTA.
Mae BAFTA Cymru’n bodoli i ddathlu a hyrwyddo’r cyfoeth o dalent sydd gennym yng Nghymru – eleni, byddwn yn cyflwyno ein gwaith i weddill y DU ac i America - gan hyrwyddo ein gweithwyr proffesiynol talentog a’u prosiectau i gynulleidfaoedd newydd a helpu i roi Cymru ar fap y diwydiannau creadigol.
Wrth i ni gyflwyno ein rhaglen o ddigwyddiadau a galw am enwebiadau ar gyfer ein Gwobrau Gemau a Rhyngweithiol (i’w cynnal ar 19 Mehefin) a Gwobrau BAFTA Cymru (i’w cynnal ar 18 Hydref), gallwch ymgysylltu â ni trwy ein bwletinau a chyfryngau cymdeithasol ac, yn bwysicach fyth, rydym ni eisiau i chi gadw mewn cysylltiad â ni.
Mae BAFTA yn sefydliad aelodaeth ac mae’r gwaith rydym ni’n ei wneud er budd pawb sy’n gweithio yn y diwydiant neu sydd eisiau dechrau gweithio yn y diwydiant.
Cynorthwywch ni i wneud yn siŵr bod yr ystod o gymorth rydym ni’n ei gynnig yn gynhwysfawr ac anogwch fwy o aelodau i ymuno er mwyn creu rhwydwaith fywiog o unigolion creadigol sy’n cefnogi ei gilydd a helpu i godi proffil y gwaith ardderchog y gallwn ei gynnig i gynulleidfaoedd ar draws pob fformat.