Ar ddydd Llun 29 Ionawr gwnaethom gynnal rhagolwg arbennig o gyd-gynhyrchiad BBC One / Netflix o Requiem yn Cineworld Caerdydd. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Sgrin Cymru, New Pictures a BBC Cymru Wales. Yn dilyn y dangosiad, fe wnaeth y gynulleidfa fwynhau sesiwn cwestiwn ac ateb a gynhaliwyd gan Lucy Owen. Roedd y panel yn cynnwys Lydia Wilson (actores), Mahalia Belo (cyfarwyddwr), Kris Mrksa (awdur), Willow Grylls (uwch-gynhyrchydd) a Sue Breen (cynhyrchydd).