Ar ddydd Iau 23 Tachwedd, mewn partneriaeth â Sgrin Cymru, gwnaethom gynnal Rhagolwg Arbennig o'r ffilm nodwedd Journey's End. Dechreuodd y noson gyda derbyniad diodydd a chanape yn y bar BAFTA Cymru yn Cineworld Caerdydd, ac fe'i cwblhawyd gyda sesiwn holi ac ateb gyda'r actor blaenllaw, Asa Butterfield, y cynhyrchydd Guy de Beaujeu, y cyfarwyddwr Saul Dibbs a'r awdur Simon Reade.