Mae perthnasau'r rhai a fu farw yn ymladd dros gyfiawnder - ac mae’r ffilm hon yn dangos pam. Arweiniodd y llofruddiaethau cyfrinachol yn uniongyrchol at y lladdiadau Dydd Sul Gwaedlyd gan yr un catrawd Parasiwt dim ond pum mis yn ddiweddarach.
Sgwrs i ddilyn yng nghwmni’r cyfarwyddwr a'i enwebwyd am BAFTA, Callum Macrae, a’r Athro Phil Scraton, sydd wedi bod yn cefnogi’r teuluoedd yn eu brwydr am gyfiawnder.
Digwyddiad mewn cydweithrediad efo Gŵyl Arall.
Mae gennym ddyraniad o 20 o docynnau am ddim i'r sesiynau hyn yn unig ar gyfer aelodau BAFTA Cymru. E-bostiwch Vicki i gadw'ch lle.
Mae tocynnau ar gyfer y cyhoedd ar gael o swyddfa docynnau Galeri.