You are here

Noson yng Nghwmni Luke Evans

Luke EvansElio Nogueira
Thursday, 29 November 2018 - 7:30pm
Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
Ganwyd Luke ym Mhont-ypŵl a chafodd ei fagu yn Aberbargoed. Derbyniodd ysgoloriaeth i Ganolfan Stiwdio Llundain, a graddiodd yn 2000.

Ac yntau’n seren lwyddiannus mewn ffilmiau ac yn y West End yn Llundain, mae’r actor o Gymru, Luke Evans, yn parhau i greu argraff yn Hollywood.

Gwelwyd Luke yn ddiweddar yn serennu fel ‘John Moore’ yn y gyfres deledu drosedd The Alienist, a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau Sundance ac a gafodd ei rhyddhau ym mis Ebrill ar Netflix. Mae cyfres ddilynol, The Angel of Darkness, wedi’i chomisiynu i ddechrau ffilmio’r flwyddyn nesaf.

Mae Luke newydd orffen ffilmio drama hanesyddol Roland Emmerich, Midway, ochr yn ochr â Woody Harrelson a Patrick Wilson. Mae’r ffilm yn adrodd hanes brwydr Midway, wedi’i adrodd gan yr arweinwyr a’r milwyr a frwydrodd ynddi. Bwriedir ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2019.

Yn 2019, cewch gyfle i’w weld yn y comedi Murder Mystery, ynghyd â chast serennog sy’n cynnwys Adam Sandler, Jennifer Aniston, Gemma Arterton, a David Walliams. Mae Luke yn ymuno â chast sy’n cynnwys Juliette Lewis, Allison Janney ac Octavia Spencer yn Ma gan Tate Taylor. Hefyd, bydd yn serennu yn ffilm nesaf Luc Besson, sef Anna, gyda Helen Mirren, Cillian Murphy, a’r actores newydd Sasha Luss. Hefyd, bydd yn lleisio rôl Felix yn StarDog and TurboCat gyda Gemma Arterton a Bill Nighy.

Roedd Luke i’w weld yn fwyaf diweddar ar y sgrin fawr yn Professor Marston & the Wonder Women. Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau Toronto, a chafodd ei rhyddhau ar ddiwedd yr hydref. Actiodd yn y ffilm gyffrous 10x10 gyda Kelly Reilly. Hefyd, actiodd yn y ffilm annibynnol State Like Sleep, ochr yn ochr â Kathryn Waterston a Michael Shannon.

Yn 2017, roedd Luke i’w weld yn addasiad hir ddisgwyliedig Disney o’r clasur animeiddiedig Beauty and the Beast. Chwaraeodd Luke ran y merchetwr a’r dihiryn ‘Gaston’ gydag Emma Watson yn rhan ‘Belle’.

Mae ei ffilmiau eraill yn cynnwys The Girl On The Train; ffilm afaelgar Ben Wheatley, High Rise, a enillodd enwebiad ‘Actor Cynorthwyol Gorau’ iddo yng Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain; Message from the King, The Hobbit: The Battle of the Five Armies, The Hobbit: The Desolation of Smaug, Dracula Untold, The Great Train Robbery a chyfres The Fast & Furious.

Rhwng 2010 a 2012, dechreuodd gyrfa Luke o ddifrif, gyda rhannau cynorthwyol a phrif rannau mewn ffilmiau fel Immortals, The Three Musketeers, The Raven a No One Lives.

Daeth rôl serennog gyntaf Luke yn hydref 2010 pan actiodd y brif ran, ‘Andy’, yn Tamara Drewe gan y cyfarwyddwr uchel ei barch, Stephen Frears.

Ymddangosodd Luke mewn ffilm lawn yn y DU am y tro cyntaf yn rôl ‘Clive’ yn Sex & Drugs & Rock & Roll a gafodd ei enwebu yng ngwobrau Academi Ffilmiau Annibynnol Prydain yn 2009. Ond y ffilm antur/ffantasi/drama Warner Brothers, Clash of the Titans, a roddodd ef ar y map, lle actiodd ran y duw carismatig, ‘Apollo’. Ar ôl hynny, ei ffilm nesaf oedd ail-gread Ridley Scott o Robin Hood, lle chwaraeodd ran prif ddilynwr y Sheriff i ddehongliad Russell Crowe o ‘Robin Hood’.


Mae gennym 55 tocyn am ddim ar gyfer aelodau (cyntaf i'r felin) i gynnwys diodydd rhwydweithio.

Gall aelodau'r cyhoedd brynu tocynnau am £10 yn cynnwys TAW YMA


Digwyddiad mewn partneriaeth gyda: