You are here

Cadeirydd BAFTA Cymru: Angharad Mair

Mae pwyllgor BAFTA Cymru wedi ethol Angharad Jones (yn y llun) fel cadeirydd BAFTA Cymru.

Mae Angharad yn Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Tinopolis, un o brif gwmniau teledu y Deyrnas Unedig a hi yw Cadeirydd Tinopolis Cymru.

Dechreuodd ei gyrfa gyda BBC Cymru yn 1982 yn cyflwyno’r rhaglengylchgrawn i blant – Bilidowcar – cyn symud i’r adran Newyddion lle bu’n cyflwyno Newyddion i S4C a Wales Today ar y BBC.

Ymunodd a chwmni Tinopolis yn 1990 fel un o gyflwynwyr cyntaf y rhaglen Heno. Erbyn hyn, yn ogystal a pharhau i gyflwyno’r rhaglen, mae hefyd yn Olygydd rhaglenni dyddiol S4C sy’n cynnwys Heno a Prynhawn Da.

Bu’n golofnydd gyda’r Wales on Sunday a Golwg am bum mlynedd, gofod a ddefnyddiodd yn gyson i bwysleisio pwysigrwydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae hefyd yn redwraig brwd ac fe gynrychiolodd Prydain yn y marathon ym Mhencampwriathau’r Byd yn Athen yn 1997.