Bydd Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru (sydd yn swydd rhan amser 22 awr yr wythnos) yn goruchwylio pob agwedd ar weinyddu Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Hydref) a Gwobrau Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol yr Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Mehefin), gan ddilyn Llyfr Rheolau’r Gwobrau i greu a rheoli amserlen y Gwobrau, y broses ymgeisio, y broses bleidleisio, a chyfathrebu ag enwebeion ac enillwyr. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr, pleidleiswyr a rheithgorau, gan sicrhau bod dwy seremoni BAFTA Cymru yn cael eu cyflwyno’n gywir ac yn unol â therfynau amser/y gyllideb.