You are here

Swyddog Digwyddiadau - BAFTA Cymru (Caerdydd)

Teitl y Swydd: Swyddog Digwyddiadau
Cangen: BAFTA Cymru (Caerdydd) 
Yn atebol i: Cyfarwyddwr BAFTA Cymru
Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn
Dyddiad Dechrau: Dydd Llun 9 Chwefror 2015
Cyflog: £20,000 pro rata 22 awr yr wythnos
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 5 Ionawr 2015
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015

Mae BAFTA yn cynnig amgylchedd proffesiynol a chreadigol cyffrous a’r cyfle i fod yn rhan o fentrau sy’n cefnogi cylch gorchwyl elusennol BAFTA. Sylwer hefyd fod buddion BAFTA yn cynnwys 23 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), ynghyd â chyfraniad pensiwn 8% gan y cyflogwr a chynllun gofal iechyd.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

1)       Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr, Pwyllgor Digwyddiadau BAFTA Cymru a Thîm Dysgu a Digwyddiadau BAFTA i raglennu a darparu rhaglen o ddigwyddiadau dysgu ledled Cymru yn cynnwys pobl ddawnus o’r diwydiannau ffilm, teledu a gemau fideo, yn unol ag amcanion strategaeth Dysgu a Digwyddiadau BAFTA

2)       Cysylltu â dosbarthwyr a hyrwyddwyr i weinyddu dangosiadau misol gyda sesiynau holi ac ateb ar gyfer yr aelodau yng Nghymru (gallai hyn olygu rhywfaint o deithio)

3)       Cyflwyno digwyddiadau a dangosiadau yn bersonol, gan drefnu bod rhywun yn cyflenwi ar eich rhan lle nad yw hyn yn bosibl

4)       Datblygu a ffurfioli’r berthynas â phartneriaid, gwyliau, cyrff y diwydiant, lleoliadau a dosbarthwyr

5)       Amlygu cyfleoedd ar gyfer nawdd a chyllid arall er mwyn darparu rhaglen ranbarthol, a mynd ar drywydd y cyfleoedd hynny

6)       Rheoli prosiectau arbennig sy’n codi proffil cylch gorchwyl elusennol BAFTA gyda chynulleidfaoedd allweddol

7)       Cysylltu â phartneriaid lleol gan gynnwys cyllidwyr craidd: BBC Cymru Wales, S4C, ITV Cymru Wales a Llywodraeth Cymru, a sefydliadau presennol fel partneriaid, Canolfan Ffilm y BFI, Ffilm Cymru, gwyliau ffilm a lleoliadau ynglŷn â chyfleoedd ar gyfer ymestyn rhaglen ddigwyddiadau BAFTA

8)       Rheoli’r gyllideb ddigwyddiadau

9)       Sicrhau bod yr holl sectorau a chynulleidfaoedd yr ydym ni’n gweithio gyda hwy wedi’u cynrychioli’n gymesur yn rhaglen Cymru

10)   Sicrhau bod safonau BAFTA yn cael eu bodloni mewn digwyddiadau partneriaeth, a chynyddu amlygiad brand BAFTA gymaint â phosibl yn y digwyddiadau hyn

11)   Cysylltu â chynulleidfaoedd newydd a gwerthuso eu hymateb i ddigwyddiadau BAFTA er mwyn gwella’r hyn a gynigir gennym

12)   Cysylltu â thîm y we i ddod o hyd i ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach yng Nghymru a chynnal eu diddordeb

13)   Llunio cytundebau gyda phartneriaid

14)   Goruchwylio’r gwaith o farchnata a hyrwyddo rhaglen ddigwyddiadau BAFTA Cymru i aelodau, myfyrwyr y cyfryngau a’r cyhoedd, gan sicrhau bod y neges yn gyson â nodau ac amcanion BAFTA

15)   Y we – ysgrifennu copi ar gyfer gwefan a chylchlythyrau BAFTA, gan weithio gyda’r tîm ar ddatblygiadau yn ymwneud â’r we ac archwilio posibiliadau rhyngweithiol ar gyfer gwaith rhanbarthol. Defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i hyrwyddo’r rhaglen

16)   Gweithio gyda’r tîm Dysgu a Digwyddiadau i weinyddu a darparu’r rhaglen, a chydag adrannau eraill BAFTA gan gynnwys Cyhoeddi, Nawdd, Cynhyrchu, Gwobrau a Digwyddiadau i wella’r hyn a gynigir gan BAFTA

17)   Ymchwilio i syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer dangosiadau a digwyddiadau, a chynllunio strwythur digwyddiadau mewn modd sy’n lledaenu gwybodaeth yn y ffordd orau

18)   Rhoi gwybod i BAFTA pwy rydych chi’n cysylltu â hwy ynglŷn â pha ddigwyddiad gan ddefnyddio’r gronfa ddata

19)   Rheoli prosiectau arbennig lle y bo’r angen

20)   Cynhyrchu digwyddiadau sy’n gysylltiedig â phrosiectau arbennig – cadarnhau talent, rheoli pob elfen gan gynnwys y gyllideb, amserlenni, lletygarwch, ac ati

21)   Casglu copïau a chynnwys at ei gilydd ar gyfer eu hargraffu

Cyffredinol:

  • Bod yn broffesiynol ac yn wybodus bob amser wrth gynrychioli BAFTA Cymru mewn digwyddiadau, gan ysbrydoli cleientiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant fel ei gilydd;
  • Bod yn greadigol a blaengar o ran cyflwyno’r Gwobrau;
  • Rheoli rhanddeiliaid/perthnasoedd â rhanddeiliaid:
  • Cysylltu’n effeithiol ag adrannau eraill BAFTA bob amser, gan sicrhau bod perthnasoedd gweithio da yn cael eu meithrin;
  • Gweithio’n agos gyda’r Tîm Gweithrediadau er mwyn sicrhau bod digwyddiadau BAFTA yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ragorol. Bod yn greadigol wrth geisio datblygu ffyrdd newydd o gyflwyno digwyddiadau eithriadol;

Gofynion ar gyfer y rôl:

  • O leiaf 3 blynedd o brofiad yn y diwydiant digwyddiadau, gan weithio i sefydliad digwyddiadau arall yn ddelfrydol
  • Gwybodaeth am y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru
  • Profiad o reoli digwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys cyllidebau ac amserlenni
  • Hanes cryf o reoli partneriaethau
  • Sylw craff i fanylion a safonau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar
  • Byddai gradd berthnasol mewn Rheoli Digwyddiadau o fantais
  • Byddai’r gallu i siarad Cymraeg o fantais
  • Hyblygrwydd: gallai’r swydd olygu oriau gweithio afreolaidd
  • Lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol, gan gynnwys defnyddio cronfeydd data
  • Y gallu i flaenoriaethu ac ymdrin â nifer o wahanol dasgau o dan bwysau
  • Y gallu i weithio’n dda mewn tîm, gan dderbyn cyfarwyddyd yn ogystal â gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun gyda chreadigrwydd a brwdfrydedd

Dylai ymgeiswyr anfon CV cyfredol a llythyr eglurhaol, gan fanylu ar eich profiad ym maes rheoli digwyddiadau a pham y dylai BAFTA Cymru eich ystyried ar gyfer y rôl, at Hannah Raybould erbyn dydd Llun 5 Ionawr.