Mae BAFTA Cymru yn chwilio am Rheolwr Gwobrau (22 awr yr wythnos)
- Teitl y Swydd: Rheolwr Gwobrau
- Cangen: BAFTA Cymru (Caerdydd)
- Yn atebol i: Cyfarwyddwr BAFTA Cymru
- Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn
- Dyddiad Dechrau: Dydd Llun 9 Chwefror 2015
- Cyflog: £22,000 pro rata 22 awr yr wythnos
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 5 Ionawr 2015
- Dyddiad cyfweliadau: Dydd Mercher 14 Ionawr 2015
Mae BAFTA yn cynnig amgylchedd proffesiynol a chreadigol cyffrous a’r cyfle i fod yn rhan o fentrau sy’n cefnogi cylch gorchwyl elusennol BAFTA. Sylwer hefyd fod buddion BAFTA yn cynnwys 23 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), ynghyd â chyfraniad pensiwn 8% gan y cyflogwr a chynllun gofal iechyd.
Y swydd
Bydd Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru yn goruchwylio pob agwedd ar weinyddu Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Hydref) a Gwobrau Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol yr Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Mehefin), gan ddilyn Llyfr Rheolau’r Gwobrau i greu a rheoli amserlen y Gwobrau, y broses ymgeisio, y broses bleidleisio, a chyfathrebu ag enwebeion ac enillwyr. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr, pleidleiswyr a rheithgorau, gan sicrhau bod dwy seremoni BAFTA Cymru yn cael eu cyflwyno’n gywir ac yn unol â therfynau amser/y gyllideb.
Byddai’r rôl yn addas i ymgeisydd sydd â sgiliau cyfathrebu da ac sy’n gallu creu a chynnal perthnasoedd ar bob lefel. Bydd hefyd angen iddo/iddi fod ag awydd cryf i gyflwyno digwyddiadau rhagorol ar yr un pryd a gallu cyflawni sawl tasg ar yr un pryd mewn amgylchedd prysur a chyrraedd targedau tîm ac unigol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
- Dadansoddi canlyniadau pob blwyddyn, ymgynghori â Phwyllgor ac Is-bwyllgor Gwobrau BAFTA Cymru a’r diwydiant ehangach, ymchwilio i dueddiadau o ran y diwydiant/gwobrau a llunio argymhellion ar gyfer newidiadau i reolau’r Gwobrau bob blwyddyn
- Llunio amserlen ac ysgrifennu’r holl ffurflenni a dogfennau ymgeisio. Rhoi gwybod i’r diwydiant am newidiadau a’u cyhoeddi ar-lein, gan ymdrin â’r holl ymholiadau
- Diweddaru’r rhannau sy’n ymwneud â’r Gwobrau ar y wefan Ymgeisio, y wefan Bleidleisio a phrif wefan BAFTA Cymru
- Cymryd cyfrifoldeb am drefn bleidleisio ar-lein Gwobrau Cymru, gan gynnwys: cyfathrebu â’r aelodau, prosesu ceisiadau, creu data a rhestrau pleidleisio, prosesu canlyniadau cyfrinachol a chysylltu ag archwilwyr yr Academi, sef Deloitte
- Cydlynu’r broses o wahodd ac amserlennu holl reithgorau Gwobrau Cymru, gan gynnwys paratoi’r holl waith papur a chysylltu â Phwyllgor BAFTA a fydd yn cadeirio’r rheithgorau
- Gweithio gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus BAFTA Cymru i ryddhau’r holl wybodaeth: canlyniadau; enwebeion; galwad am geisiadau. Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyrraedd ymgeiswyr newydd, yn enwedig o ran Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
- Coladu’r rhestr o enwebeion ac enillwyr a glynu wrth fesurau cyfrinachedd llym
- Hysbysu’r holl enwebeion yn ffurfiol, gan weithredu fel cyswllt er mwyn ymdrin â’r holl ymholiadau
- Cydlynu’r parti i Enwebeion ym mis Medi
- Coladu’r holl glipiau a gwybodaeth ar gyfer pecynnau golygedig y Gwobrau
- Gweithio gyda Chyfarwyddwr BAFTA Cymru, y Tîm Cynhyrchu a Chynhyrchydd y Gwobrau ar elfennau o’r seremoni, gan gynnwys ond yn gyfyngedig i ddarllenwyr gwybodaeth am wobrau, adloniant a chynllunio cynnwys ychwanegol yn ymwneud â’r gwobrau
- Cydlynu cynnwys a dyluniad yr holl ddeunyddiau argraffedig sy’n ymwneud â’r Gwobrau (gwahoddiad i’r parti i enwebeion / daliwr tocynnau / llyfryn)
- Cysylltu â’r lleoliad ynglŷn â thocynnau a chyda’r Cyfarwyddwr ynglŷn â gofynion noddwyr
Cyffredinol:
- Bod yn broffesiynol ac yn wybodus bob amser wrth gynrychioli BAFTA Cymru mewn digwyddiadau, gan ysbrydoli cleientiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant fel ei gilydd;
- Bod yn greadigol a blaengar o ran cyflwyno’r Gwobrau;
- Rheoli rhanddeiliaid/perthnasoedd â rhanddeiliaid:
- Cysylltu’n effeithiol ag adrannau eraill BAFTA bob amser, gan sicrhau bod perthnasoedd gweithio da yn cael eu datblygu;
- Gweithio’n agos gyda’r Tîm Gweithrediadau er mwyn sicrhau bod digwyddiadau BAFTA yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ragorol. Bod yn greadigol wrth geisio datblygu ffyrdd newydd o gyflwyno seremonïau Gwobrau eithriadol;
Gofynion ar gyfer y rôl:
- O leiaf 3 blynedd o brofiad yn y diwydiant digwyddiadau, gan weithio i sefydliad Gwobrau arall yn ddelfrydol
- Gwybodaeth am y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru
- Profiad o reoli digwyddiadau ar raddfa fawr
- Hanes cryf o reoli partneriaethau
- Profiad o weithio yn unol â therfynau amser a chymhelliant i gyflawni targedau
- Byddai gradd berthnasol mewn Rheoli Digwyddiadau o fantais
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg o fantais
Dylai ymgeiswyr anfon CV cyfredol a llythyr eglurhaol, gan fanylu ar eich profiad ym maes rheoli digwyddiadau a pham y dylai BAFTA Cymru eich ystyried ar gyfer y rôl, at Hannah Raybould erbyn 12pm dydd Llun 5 Ionawr.