You are here

Cyhoeddi amserlen Sinemaes 2016

16 June 2016

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru a Phartneriaeth Sinemaes yn falch o gyhoeddi amserlen y Pentref Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, sydd yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama, Sinemaes a Theatr y Maes.

Bydd wythnos lawn o weithgareddau yn y Pentref Drama, sy’n cael ei noddi gan Theatr Genedlaethol Cymru gan gynnwys dramâu, theatr stryd, sgyrsiau, ffilmiau, cystadlaethau, darlithoedd, dangosiadau, gweithgareddau i blant ac i’r teulu.  

Mae Sinemaes yn ychwanegiad newydd cyffrous i’r Pentref Drama eleni, fydd yn cael ei gydlynu gan BAFTA Cymru; Film Hub Wales/Canolfan Ffilm Cymru; Chapter; Into Film; Ffilm Cymru Wales; BFI NET.WORK; Cymdeithas Darlledu Brydeinig Cymru; Sgrîn Cymru; ITV Cymru Wales; S4C; Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; TAC; Gorilla a Trosol. 

Cynhelir 50 o ddigwyddiadau amrywiol, yn cynnwys sgrin-ddangosiadau, premiere neu ddau, sesiynau holi ac ateb, gweithdai, sgyrsiau, cyfle i gwrdd â gwneuthurwyr ffilm a theledu a chael cyngor am weithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol. Bydd cyfle hefyd i weld ffilmiau a chyfresi archif, gan gynnwys rhai sydd wedi ennill gwobrau BAFTA Cymru wrth i’r elusen ddathlu 25 mlynedd o’r Gwobrau.

Rhai o uchafbwyntiau'r wythnos fydd cyfle i glywed am ffilm newydd Y Llyfrgell a gweld rhagolwg o gyfres newydd Parch, mewn trafodaeth gyda Fflur Dafydd ac eraill; gweithdai animeiddio, actio ar gyfer y sgrin a chyfansoddi sgrin; dangosiad o’r ffilm Gwaed ar y Sêr gyda set byw H Hawkline; darlleniad sgript newydd ffilm am Tony ac Aloma a phremiere o ffilmiau arswyd byr newydd.

Mae’r rhaglen yn fyw ar-lein drwy bwyso ‘Rhaglen’ ar brif fwydlen y wefan a chwilio fesul lleoliad neu ddiwrnod.  Neu gallwch fynd i www.eisteddfod.cymru/2016/lleoliadau.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.