You are here

Watch Africa Cymru: Dangosiad I Still Hide to Smoke + Q&A

I Still Hide to Smoke
Saturday, 10 November 2018 - 7:30pm
The Magic Lantern, Tywyn LL36 9DF
Fatima, merch gyda meddwl cryf, yw massews mewn hammam yn Algiers. Mae hyn yn 1995 ac mae'r sefyllfa'n ddwys yn y brifddinas. Mae'r diwrnod yn addo i fod yn hectig i bawb, ac i Fatima yn arbennig. Eisoes, wrth gerdded i'w man gwaith, mae hi yn tyst o bell o ymosodiad terfysgol. Yn y hammam, dylai Fatima deimlo'n well, ond mae'r awyrgylch yn drydanol yn ei byd fach amgaeedig a mae cynnal trefn yn anodd, mwy fyth wrth i Meriem, merch beichiog un ar bymtheg oed yn dod i gysgodi yn y hammam. Ac wrth i'w brawd grac, Mohamed, ei erlun i lanhau ei anrhydedd mewn gwaed. Yn cynnwys cast o ferched sy'n cael ei arwain gan yr actores o Israel-Palestina Hiam Abbas (The State, Lemon Tree, The Visitor), ac wedi'i addasu o ddrama lwyfan Rayhana o 2009, mae'r ffilm yn defnyddio lleoliad unigol i archwilio sefyllfa menywod o dan y Gyfundrefn Islamaidd a gymerodd grym yn Algeria yn gynnar yn y 1990au.

Mae'r dangosiad yn rhan o Watch Africa Cymru, un o bartneriaid Gwyl BAFTA Cymru yn 2018 a bydd trafodaeth i ddilyn gyda chyfarwyddwr y ffilm Rayhana Obermeyer.

Mae gennym 5 tocyn am ddim ar gyfer aelodau. Ebostiwch Vicki i ofyn am le.

Tocynnau cyhoeddus ar gael drwy'r swyddfa docynnau.


Watch Africa Cymru 2018