You are here

Rhagddangosiad: Canaries + Q&A + Diodydd Rhwydweithio Haf (Abertawe)

Wednesday, 26 July 2017 - 6:45pm
The Hyst, 218 High Street, Abertawe, SA1 1PE
Y cyfle perffaith i ddathlu'r haf a rhwydweithio gyda eich cyfoedion diwydiant dros gwydraid o Pimms - i'w ddilyn gan dangosiad ffilm nodwedd newydd. Wedi ei saethu mewn lleoliadau amrywiol ar draws y byd yn cynnwys Cwmtwrch Isaf, Fietnam a Martha's Vineyard, mae Canaries yn ddrama gomedi yn sêrennu llu o actorion Cymreig adnabyddus, gan gynnwys enillwyr BAFTA Cymru Aled Pugh a Robert Pugh. Mae'r digwyddiad hwn yn arbennig ar gyfer ein haelodau a gwesteion y cast a'r criw yn unig.

Mae Canaries yn ffilm gomedi sci-fi  tywyll a llawn cyffro sydd yn gweld ffrindiau feddw ar Nos Galan mewn cwm fach yng Nghymru yn ymladd yn erbyn criw o estroniaid brawychyud sydd yn teithio trwy amser.
Mae'r asiant M.O.D, DJ radio ansicr a meistr kung fu sydd berchen ar y B&B lleol yn deall yn gyflym mae ei adduned blwyddyn newydd eleni yn syml: aros yn fyw.

Gyda Robert Pugh (Game of Thrones, Master and Commander), Aled Pugh (Stella, Ordinary Lies, Ryan a Ronnie), Kai Owen (Torchwood), Richard Mylan (Waterloo Road, Coupling) a Hannah Daniel (Hinterland) yn serennu. Wedi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Peter Stray (Lost).

Gwyliwch y rhagflas yma: