You are here

Gyrfa Glyfar: Stephen Woolley ar Gynhyrchu

Nicola Dove
Thursday, 3 August 2017 - 5:00pm
Ystafell Werdd, Canolfan Ucheldre, Caergybi, LL65 1TE
Y nesaf yn ein cyfres Gyrfa Glyfar, sy'n cynnig cyfle i glywed am ddatblygiad gyrfa unigolion mewn rolau allweddol y diwydiant ar gyfer ein aelodau cychwynnol gyrfa a myfyrwyr.

Mae'r digwyddiad hon am ddim i aelodau ond mae modd i rhai heb aelodaeth dalu am docyn gan Vicki

Nodwch os gwelwch yn dda fod y sesiwn hon ar gyfer uchafswm o 10 person.

Stephen Woolley

Mae Stephen Woolley wedi cynhyrchu a bod yn gynhyrchudd gweithredol ar bron chwe deg o ffilmiau yn ei yrfa hyd yn hyn, gan gynnwys rhai o'r ffilmiau Prydeinig a Rhyngwladol mwyaf enwog a llwyddiannus y tri degawd diwethaf.

Yn 1983, dechreuodd partneriaeth tymor hir gyda'r cyfarwyddwr Neil Jordan gyda The Company of Wolves. Aeth ymlaen i gynhyrchu'r triawd a enwebwyd am Oscar - MONA LISA, yn serennu Bob Hoskins, MICHAEL COLLINS, yn serennu Liam Neeson a END OF THE AFFAIR, yn serennu Ralph Fiennes, yn ogystal â Interview with a Vampire yn serennu Tom Cruise a Brad Pitt. Cynhyrchodd y ffilm The Crying Game, ac enillodd BAFTA a derbyn enwebiad ffilm orau gan yr Academi (Oscars) a dyfarnwyd yn Gynhyrchydd y Flwyddyn gan Urdd Cynhyrchwyr America.

Fel cyd-sylfaenydd Number 9 Films ochr yn ochr â'r bartner cynhyrchu Elizabeth Karlsen, mae Stephen wedi cynhyrchu CAROL, addasiad o nofel Patricia Highsmith, a addaswyd gan Phyllis Nagy, a gyfarwyddwyd gan Todd Haynes, yn serennu Cate Blanchett a Rooney Mara Paolo, a YOUTH Sorrentino yn serennu Michael Caine a Harvey Keitel - y ddau ffilm yn cael premiere yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2015 i ganmoliaeth feirniadol.

Mae Number 9 Films ar hyn o bryd yn ôl-cynhyrchu ON CHESIL BEACH a'i gyfarwyddwyd gan Dominic Cooke ac yn serennu Saoirse Ronan.