You are here

BAFTA Plant: Tu ol i'r Llenni (ar gyfer rhai oed 7-12)

Event: BAFTA Kids: Red Carpet ExperienceDate: 22 November 2015Venue: Roundhouse, London-Session: TV PRESENTING MASTERCLASSHosts: Ben Shires and Katie ThistletonBAFTA/Richard Kendal
13 Chwefror, 2018
Galeri, Caernarfon
Katie Thistleton (CCBBC) fydd yn arwain dathliad o’r ffilmiau, rhaglenni teledu a gemau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Plant BAFTA mis Tachwedd dwetha'.

Golwg hwyliog tu cefn i’r llenni ar ffilmiau a rhaglenni a'u henwebwyd am wobr plant BAFTA, sesiynnau cwestiynau ac atebion gyda’r gynulleidfa, heriau a chystadleuaeth arlunio.

Dyma gyfle i weld y talentau tu ôl i’r enwebiadau - a chlywed am yr actorion, animeiddwyr, dylunwyr a chyfarwyddwyr. 

Wedi ei anelu at blant 7-12 oed, bydd cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan, tynnu hunluniau a chasglu llofnodion ar ddiwedd y sioe.

Saesneg fydd Iaith y digwyddiad. Archebwch eich tocynnau’n gynnar!

Hyd y sesiwn: 2 awr