You are here

Gwyl Abertoir: Dangosiad Canaries

Friday, 17 November 2017 - 7:00pm
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Bydd ein partner gwyl, Abertoir - Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru - yn dangos y ffilm Canaries gyda sesiwn holi i ddilyn gyda'r cast a'r criw allweddol. Wedi ei saethu mewn lleoliadau amrywiol ar draws y byd yn cynnwys Cwmtwrch Isaf, Fietnam a Martha's Vineyard, mae Canaries yn ddrama gomedi yn sêrennu llu o actorion Cymreig adnabyddus, gan gynnwys enillwyr BAFTA Cymru Aled Pugh a Robert Pugh.

Mae Canaries yn ffilm gomedi sci-fi  tywyll a llawn cyffro sydd yn gweld ffrindiau feddw ar Nos Galan mewn cwm fach yng Nghymru yn ymladd yn erbyn criw o estroniaid brawychyud sydd yn teithio trwy amser.

Mae'r asiant M.O.D, DJ radio ansicr a meistr kung fu sydd berchen ar y B&B lleol yn deall yn gyflym mae ei adduned blwyddyn newydd eleni yn syml: aros yn fyw.

Gyda Robert Pugh (Game of Thrones, Master and Commander), Aled Pugh (Stella, Ordinary Lies, Ryan a Ronnie), Kai Owen (Torchwood), Richard Mylan (Waterloo Road, Coupling) a Hannah Daniel (Hinterland) yn serennu. Wedi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Peter Stray (Lost).

Mae dyraniad bach o docynnau am ddim i aelodau BAFTA ar gyfer y digwyddiad hwn. Ffoniwch Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a dyfynnwch 'BAFTA' i hawlio tocyn di-dâl. Sylwch, bydd gofyn i chi ddangos prawf o'ch aelodaeth wrth gasglu'ch tocyn.

Dangosiad i’w ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Peter Stray, Craig Russell, Kevin McCurdy, Richard Mylan a Aled Pugh