You are here

Sêr Cymru y Fonesig Siân Phillips, Luke Evans, a Syr Jonathan Pryce CBE yn cyflwyno yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2023

12 October 2023
Event: British Academy Cymru AwardsDate: 8 October 2017Venue: St David's Hall, Cardiff, WalesHost: Huw Stephens-Area: Branding & Set-Up BAFTA/Mei Lewis

Heddiw, mae BAFTA yng Nghymru yn rhannu manylion yr enwebeion, y cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig a fydd yn bresennol yng Ngwobrau BAFTA Cymru, dan arweiniad y cyflwynydd teledu o Gymru Alex Jones yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd ddydd Sul, 15 Hydref.

Disgwylir i seren y llwyfan a anwyd yng Nghymru y Fonesig Siân Phillips (a ddathlodd ei phen-blwydd yn 90 oed eleni), yr actor a’r canwr Luke Evans, a’r actor Syr Jonathan Pryce CBE, yr actores, yr ysgrifennydd, yr awdur a’r artist Katy Wix, derbynnydd Gwobr Arbennig Siân Phillips eleni Rakie Ayola, yr awdur sgrîn a’r cynhyrchydd teledu arobryn Russell T Davies a Sean Fletcher o Good Morning Britain ymuno â ni ar y noson i ddathlu rhagoriaeth ar draws diwydiannau’r sgrîn yng Nghymru.

Bydd Alexandria Riley, Annabel Scholey, cyflwynydd S4C Elin Fflur, Gabrielle Creevy, Huw Novelli, y digrifwr, yr actores a’r ysgrifennydd Jayde Adams, Jo Hartley, Lily Beau, Louise Brealey, Mark Lewis Jones, Neet Mohan, cyflwynydd BBC Radio 2 Owain Wyn Evans, Sophie Melville a Steffan Cennydd yn ymuno â nhw ar y noson, ynghyd â Chyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhuanedd Richards a fydd yn cyflwyno Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni.  

Yn fyw ar y noson, bydd Ffion Emyr yn perfformio trefniant newydd sbon y cynhyrchydd Branwen Munn o ‘Anfonaf Angel’, sef cân a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn gyda geiriau gan dderbynnydd Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni, Hywel Gwynfryn.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Rydym yn falch iawn y bydd rhai o enwogion mwyaf y diwydiant yn ymuno â ni ar gyfer y gwobrau eleni ac i ddathlu’r holl dalent sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhyfeddol i weld cewri’r diwydiant yn rhannu’r llwyfan â thalent newydd sy’n dod i’r amlwg, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld chi i gyd a dathlu gyda chi ar y noson.”

Bydd seremoni 2023 yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a bydd cynulleidfaoedd gartref yn gallu dilyn y cyffro’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

Y noddwyr a’r partneriaid sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023 yw Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Coco & Cwtsh, Deloitte, EE, Eric James Travel Services, Gorilla, ITV Cymru Wales, Lancôme, San Pellegrino, S4C a Villa Maria.

Nodiadau i Olygyddion

  • Gellir gweld y rhestr lawn o enwebiadau YMA
  • Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae Gwobr Arbennig Siân Phillips wedi cael ei dyfarnu i Rakie Ayola a derbynnydd Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni yw’r darlledwr enwog o Gymru, Hywel Gwynfryn.

Ffotograffiaeth BAFTA

Bydd delweddau cyn y Gwobrau o wobr ‘mwgwd’ BAFTA, cyflwynydd y seremoni ac unrhyw gynnwys ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho trwy lyfrgell ffotograffiaeth BAFTA yma.

Bydd detholiad o ddelweddau o garped coch, seremoni ac ardal ystafell wasg enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2023 ar gael hefyd trwy’r un ddolen o tua 18:00PM (BST) ymlaen, ddydd Sul 15 Hydref 2023, a bydd setiau llawn o ddelweddau ar gael i’w syndicetio’n uniongyrchol oddi wrth Getty Images.

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â lleoli unigryw a delweddau defnydd personol, cysylltwch â [email protected]

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: 

Nia Medi 
E: [email protected]
T: 07706 860925

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol BAFTA ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru trwy amlygu ehangder a llwyddiant y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, amlygu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, a dod â’r enghreifftiau gorau oll o waith ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau a theledu, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio www.bafta.org/awards/cymru-awards.

I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).