Teitl y Swydd: Swyddog Digwyddiadau
Cangen: BAFTA Cymru (Caerdydd)
Yn atebol i: Cyfarwyddwr BAFTA Cymru
Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn
Dyddiad Dechrau: Dydd Llun 9 Chwefror 2015
Cyflog: £20,000 pro rata 22 awr yr wythnos
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 5 Ionawr 2015
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015
Mae BAFTA yn cynnig amgylchedd proffesiynol a chreadigol cyffrous a’r cyfle i fod yn rhan o fentrau sy’n cefnogi cylch gorchwyl elusennol BAFTA. Sylwer hefyd fod buddion BAFTA yn cynnwys 23 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), ynghyd â chyfraniad pensiwn 8% gan y cyflogwr a chynllun gofal iechyd.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
1) Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr, Pwyllgor Digwyddiadau BAFTA Cymru a Thîm Dysgu a Digwyddiadau BAFTA i raglennu a darparu rhaglen o ddigwyddiadau dysgu ledled Cymru yn cynnwys pobl ddawnus o’r diwydiannau ffilm, teledu a gemau fideo, yn unol ag amcanion strategaeth Dysgu a Digwyddiadau BAFTA
2) Cysylltu â dosbarthwyr a hyrwyddwyr i weinyddu dangosiadau misol gyda sesiynau holi ac ateb ar gyfer yr aelodau yng Nghymru (gallai hyn olygu rhywfaint o deithio)
3) Cyflwyno digwyddiadau a dangosiadau yn bersonol, gan drefnu bod rhywun yn cyflenwi ar eich rhan lle nad yw hyn yn bosibl
4) Datblygu a ffurfioli’r berthynas â phartneriaid, gwyliau, cyrff y diwydiant, lleoliadau a dosbarthwyr
5) Amlygu cyfleoedd ar gyfer nawdd a chyllid arall er mwyn darparu rhaglen ranbarthol, a mynd ar drywydd y cyfleoedd hynny
6) Rheoli prosiectau arbennig sy’n codi proffil cylch gorchwyl elusennol BAFTA gyda chynulleidfaoedd allweddol
7) Cysylltu â phartneriaid lleol gan gynnwys cyllidwyr craidd: BBC Cymru Wales, S4C, ITV Cymru Wales a Llywodraeth Cymru, a sefydliadau presennol fel partneriaid, Canolfan Ffilm y BFI, Ffilm Cymru, gwyliau ffilm a lleoliadau ynglŷn â chyfleoedd ar gyfer ymestyn rhaglen ddigwyddiadau BAFTA
8) Rheoli’r gyllideb ddigwyddiadau
9) Sicrhau bod yr holl sectorau a chynulleidfaoedd yr ydym ni’n gweithio gyda hwy wedi’u cynrychioli’n gymesur yn rhaglen Cymru
10) Sicrhau bod safonau BAFTA yn cael eu bodloni mewn digwyddiadau partneriaeth, a chynyddu amlygiad brand BAFTA gymaint â phosibl yn y digwyddiadau hyn
11) Cysylltu â chynulleidfaoedd newydd a gwerthuso eu hymateb i ddigwyddiadau BAFTA er mwyn gwella’r hyn a gynigir gennym
12) Cysylltu â thîm y we i ddod o hyd i ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach yng Nghymru a chynnal eu diddordeb
13) Llunio cytundebau gyda phartneriaid
14) Goruchwylio’r gwaith o farchnata a hyrwyddo rhaglen ddigwyddiadau BAFTA Cymru i aelodau, myfyrwyr y cyfryngau a’r cyhoedd, gan sicrhau bod y neges yn gyson â nodau ac amcanion BAFTA
15) Y we – ysgrifennu copi ar gyfer gwefan a chylchlythyrau BAFTA, gan weithio gyda’r tîm ar ddatblygiadau yn ymwneud â’r we ac archwilio posibiliadau rhyngweithiol ar gyfer gwaith rhanbarthol. Defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i hyrwyddo’r rhaglen
16) Gweithio gyda’r tîm Dysgu a Digwyddiadau i weinyddu a darparu’r rhaglen, a chydag adrannau eraill BAFTA gan gynnwys Cyhoeddi, Nawdd, Cynhyrchu, Gwobrau a Digwyddiadau i wella’r hyn a gynigir gan BAFTA
17) Ymchwilio i syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer dangosiadau a digwyddiadau, a chynllunio strwythur digwyddiadau mewn modd sy’n lledaenu gwybodaeth yn y ffordd orau
18) Rhoi gwybod i BAFTA pwy rydych chi’n cysylltu â hwy ynglŷn â pha ddigwyddiad gan ddefnyddio’r gronfa ddata
19) Rheoli prosiectau arbennig lle y bo’r angen
20) Cynhyrchu digwyddiadau sy’n gysylltiedig â phrosiectau arbennig – cadarnhau talent, rheoli pob elfen gan gynnwys y gyllideb, amserlenni, lletygarwch, ac ati
21) Casglu copïau a chynnwys at ei gilydd ar gyfer eu hargraffu
Cyffredinol:
- Bod yn broffesiynol ac yn wybodus bob amser wrth gynrychioli BAFTA Cymru mewn digwyddiadau, gan ysbrydoli cleientiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant fel ei gilydd;
- Bod yn greadigol a blaengar o ran cyflwyno’r Gwobrau;
- Rheoli rhanddeiliaid/perthnasoedd â rhanddeiliaid:
- Cysylltu’n effeithiol ag adrannau eraill BAFTA bob amser, gan sicrhau bod perthnasoedd gweithio da yn cael eu meithrin;
- Gweithio’n agos gyda’r Tîm Gweithrediadau er mwyn sicrhau bod digwyddiadau BAFTA yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ragorol. Bod yn greadigol wrth geisio datblygu ffyrdd newydd o gyflwyno digwyddiadau eithriadol;
Gofynion ar gyfer y rôl:
- O leiaf 3 blynedd o brofiad yn y diwydiant digwyddiadau, gan weithio i sefydliad digwyddiadau arall yn ddelfrydol
- Gwybodaeth am y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru
- Profiad o reoli digwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys cyllidebau ac amserlenni
- Hanes cryf o reoli partneriaethau
- Sylw craff i fanylion a safonau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar
- Byddai gradd berthnasol mewn Rheoli Digwyddiadau o fantais
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg o fantais
- Hyblygrwydd: gallai’r swydd olygu oriau gweithio afreolaidd
- Lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol, gan gynnwys defnyddio cronfeydd data
- Y gallu i flaenoriaethu ac ymdrin â nifer o wahanol dasgau o dan bwysau
- Y gallu i weithio’n dda mewn tîm, gan dderbyn cyfarwyddyd yn ogystal â gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun gyda chreadigrwydd a brwdfrydedd
Dylai ymgeiswyr anfon CV cyfredol a llythyr eglurhaol, gan fanylu ar eich profiad ym maes rheoli digwyddiadau a pham y dylai BAFTA Cymru eich ystyried ar gyfer y rôl, at Hannah Raybould erbyn dydd Llun 5 Ionawr.