You are here

Swyddi gyda BAFTA

Current Vacancies:

Rheolwr Gwobrau - BAFTA Cymru (Caerdydd)

Bydd Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru (sydd yn swydd rhan amser 22 awr yr wythnos) yn goruchwylio pob agwedd ar weinyddu Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Hydref) a Gwobrau Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol yr Academi Brydeinig yng Nghymru (ym mis Mehefin), gan ddilyn Llyfr Rheolau’r Gwobrau i greu a rheoli amserlen y Gwobrau, y broses ymgeisio, y broses bleidleisio, a chyfathrebu ag enwebeion ac enillwyr. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr, pleidleiswyr a rheithgorau, gan sicrhau bod dwy seremoni BAFTA Cymru yn cael eu cyflwyno’n gywir ac yn unol â therfynau amser/y gyllideb.