Bydd Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol cael ei chyflwyno yng Nghaerdydd ar 11 Gorffennaf 2014 er mwyn cydnabod, anrhydeddu a gwobrwyo unigolion am gyflawniad creadigol rhagorol o ran Gemau.
Caiff pob cais ei ystyried ar gyfer Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol 2014 ac ar gyfer pob un o bedair Gwobr Canmoliaeth Academi Brydeinig Cymru.
GWOBRAU A GYFLWYNIR
- Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol*
Am gêm orau’r flwyddyn, ar draws pob genre a llwyfan.
CANMOLIAETH YR ACADEMI
1.Cynllun Chwarae'r Gêm
Am y gêm orau sy’n denu ac ymgysylltu’r chwaraewr. Ystyrir pob maes dylunio yn y categori hwn, gan gynnwys mecaneg gêm, defnyddio rheolyddion, lefel deallusrwydd/strwythur byd, rhediad, cynllun storïol, a chynllun gêm eiliad i eiliad.
2.Cyflawniad Artistig
Am arddangos arloesedd a chymhwysiad technegol eithriadol ar draws pob genre.
3.Cyflawniad Technegol
Am arddangos arloesedd a chymhwysiad technegol eithriadol ar draws pob genre.
4.Sain a Cherddoriaeth
Gwobrwyo rhagoriaeth mewn cynllunio a chymhwyso sain, deialog a cherddoriaeth wreiddiol i greu profiad clywedol eithriadol.
Gellir gwneud cais ar-lein trwy wefan ddiogel – Safle Ceisiadau am Wobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol: http
Bydd y Safle Ceisiadau ar agor o 31 Mawrth 2014, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 16 Mai 2014.
Bydd cyfarwyddiadau llawn ynglŷn â sut i wneud cais ar gael ar y dudalen Gwybodaeth am Geisiadau ar gyfer Gwobrau o 31 Mawrth 2014. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses o gyflwyno ceisiadau ar-lein a dolen i’r Safle Ceisiadau ar : http
Gellir cyflwyno ceisiadau unigol neu geisiadau tîm lle y bo’n briodol.
Ffioedd ar gyfer ceisiadau: £25.00 + TAW ar gyfer pob gêm a gyflwynir.
Gweler Llyfr Rheolau Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol 2014 isod i gael rhagor o wybodaeth.
- Cymru Game Awards Rulebook 2014 (100.3 KB)