You are here

Gwyl Ffilm PICS


Gwyl Ffilm PICS

Yn 2017, dathlodd Gwyl Ffilm PICS Galeri 11 mlynedd o gynhyrchu ffilm gan blant a phobl ifanc.

Mae'r ŵyl hon yn unigryw a'r unig ŵyl ffilm fer yn y byd sy'n cynnig llwyfan i blant a phobl ifanc sydd wedi creu ffilmiau iaith Gymraeg neu ddim iaith yn benodol. Mae'r ŵyl yn cynnwys:

  • Dangosiadau ffilm
  • Gweithdai ymarferol
  • Prosiectau Ffilm
  • Sesiynau C+A
  • Cystadleuaeth Ffilm / gwobrau ar gyfer ffilmiau gan oedrannau blant rhwng 7 - 25+
  • Noson Carped Coch

Rydym wedi cyflwyno dau gategori newydd sbon eleni - un i wneuthurwyr ffilm dros 25 oed a chategori arall i bobl ifanc (15-25 oed) er mwyn creu cerddoriaeth ar gyfer ffilm.

Ymunwch â ni ar ddydd Iau 23 Chwefror, 2017 ar gyfer y noson wobrwyo sy'n ddigwyddiad carped coch yn Theatr GALERI.

Ymweld a wefan yr Wyl yma