You are here

Prif Siaradwr Gwobrau Gemau Bafta Cymru 2014 Wedi’i Gadarnhau

2 July 2014
Mitu Khandaker - Game DeveloperBAFTA/ Jessie Craig

Mitu Khandaker-Kokoris fydd y prif siaradwr yng Ngwobrau Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol BAFTA Cymru, a gynhelir ar 11 Gorffennaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Mae Mitu yn ddyluniwr gemau, rhaglennydd a sefydlydd stiwdio annibynnol The Tiniest Shark. Enwyd Mitu gan gylchgrawn Develop ymhlith y 30 datblygwr mwyaf addawol yn 2012, yn ogystal â chael ei henwi’n ddiweddar fel BAFTA Breakthrough Brit.

Cyflwyno Gwobr BAFTA Cymru (Sydd eleni, yn cael ei noddi gan Brifysgol Glyndŵr) fydd digwyddiad olaf Sioe Datblygu Gemau Cymru. Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Sioe Datblygu Gemau Cymru yn darparu dwy ystafell arddangos sy’n cynnwys cwmnïau gemau o Gymru, gwaith gan fyfyrwyr a sefydliadau cymorth, cyflwyniadau diwydiannol gan grewyr consol a thechnoleg symudol, gweithdai ymarferol, meddygfeydd hwyneb yn wyneb a chyfleoedd rhwydweithio. Llynedd, mynychodd 34 o arddangoswyr a 555 o ymwelwyr y sioe, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Creative Europe.

Am 5.00pm, byddwn yn cynnal Sesiwn Holi ac Ateb Panel Gemau BAFTA Cymru arbennig fel rhan o’r Sioe. Ymysg y panelwyr fydd: Gary Napper (Creative Assembly), Ralph Ferneyhough (GamesDev Gogledd Cymru), Anton Faulconbridge (RANT Media) a Michelle Ducker (Media Molecule/Sony). Gina Jackson (ymgynghorydd gemau a sefydlydd Women in Games) fydd yn cadeirio’r sesiwn. Gwahoddir y rheiny sy’n mynychu i gyflwyno’u cwestiynau trwy Twitter i @walesgds #baftaQT neu yn ystod y dydd yn y blwch a ddarperir yn y sioe.

Cynhelir y brif ddarlith am 6.45pm, yn union cyn y seremoni wobrwyo am 7pm, gyda derbyniad i ddilyn.

I weld amserlen lawn y diwrnod a manylion archebu tocynnau, ewch i:

Sioe Datblygu Gemau Cymru 2014