You are here

Guru Live Caerdydd: Wedi ei ohirio

16 March 2020

Yn anffodus, rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad anodd i ganslo ein digwyddiad Guru Live Caerdydd ar 21 Mawrth.

Rydym wedi bod yn monitro'r cyngor gan y llywodraeth ond yn ogystal â hyn, bu'n rhaid i ni ystyried argaeledd siaradwyr, presenoldeb ac ansawdd y profiad y byddwn yn gallu ei gynnig. 

Gan ein bod ni'n dîm bach, rydyn ni hefyd eisiau sicrhau y byddwn ni'n gallu parhau i gynnig gweithgareddau a gwasanaethau i'n haelodau a'n cynulleidfaoedd cyhoeddus.

Rydyn ni'n gobeithio gallu ail-drefnu elfennau o Guru Live Caerdydd fel digwyddiadau annibynnol yn ystod y misoedd nesaf. Os gallwn wneud hynny, byddwn yn anfon e-bost at unrhyw un a brynodd docyn cyn gynted ag y gallwn gadarnhau. Cadwch lygad hefyd ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n cylchlythyrau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymddiheurwn am y siom yr ydym yn amlwg yn ei rhannu.

Mae Guru Live Caerdydd yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gynulleidfa hon. 

Gobeithio y gwelwn ni chi yn fuan iawn.

Cofion cynnes
Tîm BAFTA Cymru