Cyhoeddwyd manylion rhaglen Pentref Drama'r Eisteddfod eleni heddiw (16 Mai). Yn gartref i Theatr y Maes, Caffi’r Theatrau, Cwt Drama, a Sinemaes, mae’r rhaglen yn cynnig cwmpas eang o berfformiadau a digwyddiadau, gan roi llwyfan i nifer o elfennau artistig yn ystod yr wythnos.
Mae Sinemaes yn dychwelyd eleni, yn dilyn llwyddiant y llynedd. Cydlynir y prosiect gan BAFTA Cymru gyda’r partneriaid canlynol: Y Gymdeithas Teledu Frenhinol, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Canolfan Ffilm Cymru, Chapter, BBC Cymru Wales, BFI Network, Undebau’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru, Cwmni Pendraw, Gorilla, Into Film Cymru, S4C, TAC a Trosol, gyda chefnogaeth yr Eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae cefnogwyr cynnwys hefyd yn cynnwys Cwmni Da, Rondo, Pontio, Canolfan Ucheldre ac eraill.
Meddai Hannah Raybould o BAFTA Cymru, “Mae partneriaid Sinemaes yn gyffrous iawn i ddychwelyd i’r Maes am yr eildro eleni, gyda rhaglen sy’n dathlu’r ardal. Mae gennym ffilmiau archif sy’n dangos ein harfordir ar ei gorau, gwneuthurwyr ffilm lleol a ffilmiau gyda chysylltiadau â’r gogledd - rhywbeth i bawb yn bendant. Mae gennym 45 o weithgareddau yn ystod yr wythnos, o weithdai i bobl ifanc a premieres i sesiynau holi ac ateb gydag enillwyr BAFTA. Hefyd, byddwn yn gwe-ddarlledu am y tro cyntaf eleni, diolch i gefnogaeth Cyngor y Celfyddydau, gyda chyfle i’r rheiny sy’n methu dod atom i fwynhau’r arlwy, a bydd gennym bedwar digwyddiad ymylol ar draws yr ynys.”
Sioned Edwards sy’n gyfrifol ar rhan yr Eisteddfod am drefnu’r Pentref Drama ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda trefnwyr y Cwt a’r Sinemaes yn ogystal âc aelodau y Pwyllgor drama lleol.
Nododd Sioned “Mae’r Pentref wedi datblygu llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n ardal ddeinamig a chyffrous, sy’n adlewyrchu’r diwydiant ffilm a theatr bywiog sydd gennym yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i Theatr Genedlaethol Cymru , sy’n noddi Theatr y Maes am eu cefnogaeth barhaus. Mae’r cefnogwyr eraill yn cynnwys Cronfa Gari a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ychwanegodd Fflur Thomas ar ran Theatr Genedlaethol Cymru : “Rydym yn falch iawn eto eleni o’r cyfle i gael cydweithio gyda nifer o gwmnïau ac unigolion er mwyn cyflwyno gweithiau newydd, arbrofol a difyr. Mae’r cyflwyniadau rhain yn amrywio o sioeau i blant a phobl ifanc, i ddarlleniadau o waith mewn datblygiad ac i weithdai. Maent yn ychwanegiadau diddorol i’r arlwy drama eang ei apêl yr ydym wedi cynorthwyo i’w drefnu eleni. Braf fydd cael bod yn rhan o’r bwrlwm a’r cyffro yn y Pentref Drama unwaith eto ym Môn.”
Mae tocynnau Estron (Theatr Genedlaethol Cymru) a Dim Byd Ynni (Theatr Bara Caws) ar gael am £5 (gyda phris tocyn Maes yn ychwanegol) o www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio’r llinell docynnau ar 0845 4090 800.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst. Tocynnau bargen gynnar ar gael tan 30 Mehefin.
Bydd manylion y rhaglen lawn ar lein yn fuan ond cewch gip ar y rhaglen isod.