Bydd cyfres o ffilmiau yn cael eu dangos ledled y DU cyn y Nadolig i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu eu bywydau.
Cynhaliodd BAFTA noson arbennig iawn yn Cineworld Caerdydd nos Sadwrn, 30 Tachwedd pan ddangosodd y ffilm 2D Frozen i deuluoedd Tŷ Hafan. Mae’r ffilm hon yn un o gyfres o ffilmiau sy’n cael eu dangos gan BAFTA adeg y Nadolig ar gyfer plant sy’n dioddef o gyflyrau sy’n cyfyngu eu bywydau, a’u teuluoedd, ledled y DU. Nod ffilm nos Sadwrn yng Nghaerdydd yw cynnig noson hwyliog i blant Tŷ Hafan a’u teuluoedd. Fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â Cineworld a Walt Disney Studios a’i chefnogi gan Hamley's Caerdydd a Celtic Prop Hire. Dyma’r bedwaredd flwyddyn i BAFTA gynnal y digwyddiadau hyn ar gyfer plant hosbisau adeg y Nadolig ac maent yn ffurfio rhan o raglen BAFTA o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn i gynulleidfaoedd ledled y DU.
Dywedodd Allison Dowzell, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:
"Mae BAFTA wrth ei fodd yn gweithio gyda’n partneriaid, Cineworld a Walt Disney Studios, i gynnal y digwyddiad arbennig hwn i blant Tŷ Hafan a’u teuluoedd. Gobeithiwn fod ein gwesteion arbennig wedi mwynhau’r ffilm ac wedi cael amser hyfryd gyda’i gilydd.”
Mwy am Ffilmiau BAFTA ar gyfer Hosbisau adeg y Nadolig
Mae dangosiadau ffilmiau BAFTA ar gyfer hosbisau, a lansiwyd yn 2009, yn gyfres arbennig o ffilmiau ledled y DU ar gyfer plant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu eu bywydau, a’u teuluoedd. Mae’r dangosiadau hyn, sy’n arbennig ar gyfer y plant a’u teuluoedd, mewn partneriaeth â hosbisau lleol i blant. Cânt eu cefnogi yn 2013 gan Walt Disney Studios a Cineworld, Giant Screen Birmingham a Parkways Cinema yn Cleethorpes.
Mae pob digwyddiad yn cael ei greu’n benodol gydag anghenion y teuluoedd mewn golwg ac mae’r lleoliadau ar gael i’r gwesteion dan sylw yn unig fel bod y teuluoedd yn teimlo’n gyfforddus. Mae gan bob lleoliad fynediad i gadeiriau olwyn ac mae’r holl ddigwyddiadau wedi cynnwys gweithgareddau ac adloniant tymhorol er mwyn creu diwrnod allan arbennig dros ben.
Cynhelir dangosiadau ffilmiau BAFTA ar gyfer hosbisau yn 2013 diolch i ymdrechion codi arian aelodau BAFTA a redodd Marathon Virgin Llundain yn 2013.